Adroddiad thematig |

Cymorth a chydweithio rhwng ysgolion - Mehefin 2015

Share this page

Adroddiad thematig | 01/06/2015

pdf, 503.1 KB Added 01/06/2015

Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2015-2015. Mae’r adroddiad yn rhoi enghreifftiau o gymorth rhwng ysgolion, gan gynnwys trefniadau anffurfiol a grëwyd gan ysgolion, neu drefniadau wedi’u brocera, cydweithio a ffederasiynau. Ar gyfer pob enghraifft, ceir astudiaeth achos yn dangos arfer bresennol. Mae’r adroddiad yn ystyried yr hyn sy’n gweithio, sut a pham y mae’n gweithio, a’r dulliau cymorth sy’n ei gynnal. Hefyd, mae’n trafod yr effaith, ffactorau llwyddiant a rhwystrau sy’n wynebu’r mentrau hyn rhwng ysgolion.

Argymhellion

Dylai arweinwyr ysgolion:

  • fod yn glir iawn ynghylch yr hyn y maent am ei gyflawni trwy gymryd rhan mewn gweithgarwch cymorth rhwng ysgolion
  • nodi meini prawf llwyddiant penodol ar gyfer y gweithgarwch
  • sicrhau bod y ffocws ar godi safonau a gwella deilliannau
  • arfarnu’r effaith, costau a buddion

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia:

  • fod â strategaeth glir ar gyfer paru ysgolion i gydweithio â’i gilydd
  • gosod disgwyliadau ynghylch sut bydd grwpiau’n gweithredu
  • sicrhau bod adnoddau ar gael i ategu gwaith rhwng ysgolion
  • nodi a lledaenu gwybodaeth am arfer sy’n haeddu cael ei hefelychu

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ystyried ffyrdd i alluogi ffederasiynau i gofrestru’n ysgol unigol
  • cydlynu cronfa ddata genedlaethol o arfer sy’n haeddu cael ei hefelychu sy’n dod ag astudiaethau achos arfer orau Estyn, a’r rhai a nodir gan gonsortia ac awdurdodau lleol, at ei gilydd

Astudiaethau achos o arfer orau

  • Deuluoedd ‘cynradd’ Ynys Môn
  • Ysgol Uwchradd Elfed, Sir y Fflint
  • Ysgol Tregarth ac Ysgol Bodfeurig, Gwynedd
  • Y Ffederasiwn o Ysgolion yng Nghwm Afan Uchaf, Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Ddydd Arbennig Crownbridge a’i phartneriaid Ysgol Arbennig Portfield, Ysgol Arbennig Greenfields, Ysgol Arbennig Heronsbridge, Ysgol Hen Felin ac Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn