Arfer Effeithiol |

Datblygu partneriaethau yn paratoi’r ffordd ar gyfer mwy o ymgysylltu gan ddisgyblion

Share this page

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol ddydd gymunedol arbennig sy’n darparu ar gyfer 167 o ddisgyblion 3-19 oed yw Ysgol Hen Felin.  Mae gan ddisgyblion amrywiaeth o anawsterau, gan gynnwys anhwylderau’r sbectrwm awtistig (ASA), anawsterau dysgu difrifol (ADD), anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl), nam ar y clyw (NC) ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).

Cenhadaeth yr ysgol yw darparu amgylchedd diogel a meithringar lle gall pob disgybl gyflawni ei botensial.

Mae’r ysgol wedi’i threfnu’n bedair adran: y Cyfnod Sylfaen; sector cynradd; sector uwchradd ac ymadawyr (ôl-16).  Caiff y dysgu ei addasu yn unol ag anghenion dysgu unigol pob plentyn.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Yn sgil cynnydd yn nifer y disgyblion sydd wedi cael diagnosis ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig sydd ag anawsterau ymddygiadol a synhwyraidd difrifol, mae’r ysgol wedi ailystyried ei methodoleg ar gyfer addysgu a rheoli ymddygiad.  Er bod yr ysgol wedi gweithio’n effeithiol gyda phlant sydd ag anghenion addysgol arbennig, roedd angen dull gwell er mwyn cynnal amgylchedd dysgu hapus a gwella safonau disgyblion.  Felly, bu’r ysgol yn gweithio gydag un o’i phartneriaid, sef arbenigwr ymddygiad annibynnol, ar ddull newydd ar gyfer rheoli ymddygiad disgyblion.  Mae’r dull yn gwerthfawrogi pob plentyn ac yn teilwra rhyngweithio a phrofiadau dysgu â’u hanghenion unigol, gan gynnwys eu gallu i hunanreoleiddio a rhannu sylw â phlant eraill. 

Caiff y bartneriaeth ei hariannu trwy’r Grant Amddifadedd Disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn Ysgol Hen Felin, rydym wedi lleihau ymddygiadau amhriodol disgyblion ac wedi cynyddu eu cyfle i elwa ar ddysgu, trwy ein dull newydd sy’n cael ei ymgorffori yn ein harfer ddyddiol yn yr ysgol.  Trwy weithio i ddechrau ar allu disgyblion i reoleiddio eu hymddygiad a rhannu sylw, rydym yn datblygu eu gallu i barhau i ymgysylltu â rhywun arall.  Mae’r ddau allu cychwynnol hyn yn hanfodol i’n harfer.  Wrth i bob disgybl feistroli’r rhain, mae wedyn yn bosibl iddynt gymryd rhan mewn gwersi a chynnal eu hymddygiad am gyfnodau hwy yn y dosbarth.

Datblygodd yr ysgol dîm cymorth ymddygiad o aelodau staff a phartneriaid o’r darparwr annibynnol.  Mae’r tîm yn canolbwyntio ar nodi ymddygiadau amhriodol disgyblion ac yn dyfeisio strategaethau i reoli’r rhain a’u lleddfu.  Mae hyfforddi staff ynglŷn â’r strategaethau ymddygiad unigol yn agwedd bwysig ar waith y tîm.  Dros gyfnod, mae’r tîm wedi tyfu ac yn parhau i gynnal rheolaeth ymddygiad effeithiol dros nifer y plant ag ymddygiadau anodd sy’n dechrau yn Ysgol Hen Felin sy’n cynyddu o hyd.

Yn 2012, sefydlodd y tîm grwpiau symud dyddiol i wella ymwybyddiaeth disgyblion o’u corff, galluoedd gofodol gweledol a medrau symud.  Yn ychwanegol, sefydlwyd grwpiau medrau cymdeithasol ar gyfer cyfnod allweddol 4 a’r grŵp ymadawyr ysgol.  Mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar gymryd tro, datrys problemau a chyfathrebu â chyfoedion.  Nod ein grwpiau yw hyrwyddo medrau a rhyngweithio disgyblion, cefnogi datblygiad eu hunanofal a datblygu perthnasoedd a chyfeillgarwch.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r dull hwn wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb disgyblion a’u lles ac mae wedi lleihau nifer yr achosion yn ymwneud ag ymddygiad.  Mae defnyddio’r dull hwn sy’n seiliedig ar berthynas wedi rhoi cyfle i aelodau staff ddod i adnabod pob plentyn yn well, a deall eu proffil unigol, trwy gofnodi a dadansoddi trylwyr.  Mae’r ddealltwriaeth gynhwysfawr hon o bob disgybl yn ategu lleihau’r ymddygiadau a ddangosir.

Mae lefelau ymgysylltu â disgyblion mewn gwersi wedi gwella’n sylweddol ers cyflwyno’r dull hwn yn 2010.  Mae hyn oherwydd bod yr ysgol bellach yn llwyddo i gynorthwyo pob disgybl i feistroli hunanreoleiddio a medrau sylw ar y cyd.  Yn benodol, mae perthynas disgyblion â staff a phobl eraill yn datblygu’n berthynas well o ddealltwriaeth a pharch ar y ddwy ochr.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae gwaith gyda’r bartneriaeth hon wedi cael ei gyfleu a’i rannu’n effeithiol gydag ysgolion eraill yn Ne Cymru.

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Cymorth a chydweithio rhwng ysgolion - Mehefin 2015

pdf, 503.1 KB Added 01/06/2015

Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2015-2015. ...Read more