Arfer Effeithiol |

Creu gweledigaeth ar gyfer gwelliant parhaus

Share this page

Nifer y disgyblion
1613
Ystod oedran
11-18
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr Ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Caerdydd yn ysgol gyfun amrywiol a bywiog wedi’i lleoli yng ngogledd dinas Caerdydd.  Mae 1,613 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 422 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae tua 6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n is o lawer na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 16.4%.

Derbynnir amrywiaeth o ddisgyblion i’r ysgol.  Mae mwyafrif y disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf.  Mae 435 o ddisgyblion yn y categori Saesneg fel iaith ychwanegol a daw tua 36% o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol.  Mae un y cant o’r disgyblion yn siarad Cymraeg mamiaith.

Tua 18% yw canran y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 22.9%.  Mae canran y disgyblion â datganiad o anghenion addysgol arbennig (2.4%) fymryn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 2.2%.  Mae gan yr ysgol ganolfan adnoddau arbenigol sy’n gwasanaethu’r awdurdod lleol, i 15 o ddisgyblion ag anawsterau dysgu penodol.

Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn ysgol arloesi ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau’n ymwneud â diwygio addysg yng Nghymru.

Cynnal a gwella arfer effeithiol

Yn 2015, roedd Ysgol Uwchradd Caerdydd yn ysgol hynod effeithiol ac uchel ei pherfformiad, gyda chynnydd blynyddol mewn deilliannau.  Roedd gan yr ysgol hanes hir o ragoriaeth mewn dysgu ac addysgu, fe’i barnwyd yn rhagorol gan Estyn, roedd yn ysgol categori gwyrdd, nodwyd ei bod yn arwain y sector ac roedd yn gweithio’n rheolaidd gydag ysgolion eraill, gan weithio ar lefelau lleol a chenedlaethol i lywio a datblygu’r system hunanwella.  Fodd bynnag, y cwestiwn ofynnodd yr ysgol i’w hun bryd hynny oedd, ‘Sut gallwn ni fod yn well fyth?’

Mae cred Ysgol Uwchradd Caerdydd fod dysgu yn ganolog i bopeth a wna yn sylfaen i ymagwedd yr ysgol at ddysgu ac addysgu.  I gryfhau’r diwylliant hwn, gwnaed penderfyniad strategol gan yr ysgol yn 2015 i fuddsoddi’n helaeth mewn dysgu ac addysgu.  O ganlyniad, cafodd arweinyddiaeth dysgu ac addysgu ei hymestyn trwy ehangu’r uwch dîm arwain i gynnwys dau bennaeth cynorthwyol sy’n arwain y weledigaeth strategol ar draws yr ysgol, ochr yn ochr â dirprwy bennaeth.  At hynny, sefydlwyd tîm dysgu ac addysgu yn cynnwys arweinwyr canol i arwain a helpu i roi blaenoriaethau strategol ar waith.  Yn sgil rhoi’r fframwaith hwn yn ei le, sefydlwyd gweledigaeth newydd ar gyfer dysgu ac addysgu, gyda’r pwyslais ar:

  • arweinyddiaeth ar bob lefel
  • datblygu a chynnal arfer hynod effeithiol yn yr ystafell ddosbarth
  • dysgu proffesiynol a dyhead i wella ar gyfer pawb

Arweinyddiaeth ar bob lefel

Sefydlodd uwch arweinwyr fod dysgu ac addysgu yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer gwella’r ysgol yn barhaus.  Mae dysgu ac addysgu yn flaenoriaeth ganolog yng nghynllun gwella’r ysgol ac mewn cynlluniau gwella adrannol ym mhob blwyddyn academaidd.  Mae’r ysgol yn cydnabod y gall bob amser wella ac adeiladu ar ansawdd profiadau dysgu. 

Cydnabu’r ysgol fod datblygu dysgu ac addysgu yn ystyrlon ac yn barhaus yn bosibl dim ond trwy gydnabod a chynyddu effeithlonrwydd athrawon.  Roedd hyn yn golygu bod angen i’r ysgol, er mwyn iddi wireddu’i gweledigaeth, roi’r grym i athrawon arwain dysgu yn eu hystafelloedd dosbarth a chynnig y cydbwysedd priodol o her a chymorth i wneud i hyn ddigwydd.  Roedd yr ymagwedd hon yn berthnasol ar lefel adran hefyd, lle’r ymddiriedwyd mewn arweinwyr canol i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer dysgu ac addysgu sy’n briodol i bob cyd-destun penodol i bwnc. Er enghraifft, rhoddwyd cyfrifoldeb i bob adran am ei ffordd o ymdrin ag adborth.

Wrth wraidd sicrhau ansawdd yr ymagwedd hon at ddysgu ac addysgu y mae athroniaeth bod sicrhau ansawdd yn cael ei wneud gydag ac nid i staff ac adrannau, a’i fod yn broses ddatblygu i feithrin gwelliant pellach.  Mae’r ysgol o’r farn mai’r ymagwedd gydweithredol hon a’i phwyslais ar ymddiriedaeth broffesiynol yw’r elfen hanfodol mewn gweithredu arfer addysgegol effeithiol.  Mae’r model yn taro cydbwysedd hynod effeithiol rhwng cymorth a her sy’n gadarn ac yn gosod dysgu wrth wraidd prosesau sicrhau ansawdd. 

Datblygu a chynnal arfer hynod effeithiol yn yr ystafell ddosbarth

Roedd yr ysgol eisiau sefydlu fframwaith addysgegol clir er mwyn creu iaith gyson i siarad am ddysgu ac addysgu, rhoi strategaethau hygyrch i staff oedd wedi’u llywio gan ymchwil, a sefydlu dysgu proffesiynol fel hawl i’r holl staff.

O ganlyniad, gosododd uwch arweinwyr 5 flaenoriaeth graidd ar gyfer dysgu ac addysgu:

  • model dysgu ac addysgu ysgol gyfan, gan ddefnyddio fframwaith addysgegol penodol
  • cau’r bwlch rhwng potensial a pherfformiad i’r holl ddisgyblion
  • llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
  • adborth
  • llais y dysgwr

Rhoddodd yr ysgol fodel dysgu ac addysgu masnachol ar waith.  Roedd o’r farn bod y model yn mynegi’r pum elfen graidd sy’n ofynnol ar gyfer dysgu ac addysgu hynod effeithiol:

meddwl yn ddyfnach, modelu ymddygiad, effaith, her ac ymgysylltu â dysgu.  Mae’r model hwn yn darparu iaith gyffredin ar gyfer cysyniadoli dysgu ac addysgu, gan ganiatáu am weithredu gan athrawon ac ymagwedd hyblyg ar yr un pryd.

Mae cau’r bwlch rhwng perfformiad a photensial yn athroniaeth sy’n treiddio drwy’r ysgol ac, o ganlyniad, mae diwylliant o uchelgais i bawb.  Fel rhan o’r ymagwedd hon, mae’r ysgol wedi mabwysiadu nifer o strategaethau addysgegol yn seiliedig ar theori addysgol bresennol.  Mae’r strategaethau’n hyrwyddo pwyslais ar ymgysylltu â dysgu a lefelau uchel o her i ymestyn pob dysgwr. 

Mae llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn fedrau trawsgwricwlaidd hanfodol sy’n cael eu cymhwyso orau, ym marn yr ysgol, mewn cyd-destun a, lle y bo’n briodol, ar lefel berthnasol.  I gefnogi ethos cydweithredol yr ysgol, mae’r tîm dysgu ac addysgu yn cydgynllunio, darparu a myfyrio ar gymhwyso medrau a dilyniant gydag arbenigwyr pwnc.

Mae’r ysgol o’r farn y dylai adborth lywio cynllunio ac arfer effeithiol yr ystafell ddosbarth ar bob lefel a gellir ei roi ar lafar, yn ysgrifenedig neu yn ddigidol.  Mae polisi adborth yr ysgol yn amlinellu pedwar piler adborth hynod effeithiol.

  • mae’n rheolaidd ac yn amserol
  • mae ganddo ffocws ac mae’n benodol
  • gweithredir ar yr adborth
  • rhennir yr arfer

Mae arweinwyr canol yn dwyn perchenogaeth dros eu pwnc ac ymagweddau at adborth sy’n benodol i gyd-destun.  Caiff y rhain eu rhannu gyda phob rhanddeiliaid ac mae eu hansawdd yn cael ei sicrhau yn rheolaidd.  Mae hyn yn arwain at brosesau adborth hynod ymatebol a myfyriol, sy’n cael eu mireinio’n ofalus ac maent yn cyfrannu’n uniongyrchol at ansawdd profiadau dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Mae arweinyddiaeth dysgu yn yr ysgol yn ymgorffori llais y dysgwr a chyfleoedd i ddysgwyr ymgymryd â rôl weithgar mewn llywio profiadau dysgu yn effeithiol.  Mae’r ysgol yn gofyn barn dysgwyr mewn nifer o feysydd, gan gynnwys adolygiadau adrannol, craffu ar waith a phaneli penodol i bwnc.  Hefyd, mae disgyblion yn cael eu cynnwys yn ffurfiol trwy senedd ysgol, gan weithio yn yr ysgol ac ar draws y consortiwm i lywio profiadau addysgegol.

Dysgu Proffesiynol

Mae uwch arweinwyr o’r fan bod lles a datblygiad proffesiynol staff yn ganolog i safonau dysgu ac addysgu eithriadol o uchel yr ysgol.  Mae diwylliant o ddysgu proffesiynol wedi’i wreiddio’n gadarn ar bob lefel ac fe’i hystyrir yn hawl broffesiynol i’r holl staff a chan yr holl staff.  Mae’r ysgol yn cydnabod mai staff yw’r ased mwyaf gwerthfawr ac mae’n mynd ati i gynnig cyfleoedd datblygu rheolaidd, pwrpasol, o ansawdd uchel.  Mae’r ysgol yn ystyried ei hun yn sefydliad dysgu hynod effeithiol.

Mae’r ysgol yn cynnig llwybrau niferus i staff ddatblygu’n broffesiynol:

  • gweledigaeth strategol wedi’i llywio gan ymchwil
  • darpariaeth hyfforddiant mewn swydd strategol, i’r ysgol gyfan, sy’n canolbwyntio’n glir ar flaenoriaethau gwella
  • diwylliant cefnogol o arsylwi gwersi, teithiau dysgu a rhannu arfer dda
  • ymagweddau cydweithredol at agweddau allweddol ar addysgegau dysgu ac addysgu
  • ethos annog a rhaglen annog ysgol gyfan
  • Ymholi Gweithredol ysgol gyfan
  • cyfres o raglenni masnachol i ddatblygu addysgeg ac arweinyddiaeth e.e. rhai ar gyfer athrawon, cynorthwywyr addysgu ac arweinwyr rhagorol

Mae’r ysgol yn cydnabod nad yw arwain dysgu mewn addysgu yn llwyddiannus yn bodoli ar ei ben ei hun.  Mae modd cyflawni’r arweinyddiaeth lwyddiannus dim ond pan fydd yn gweithio mewn cytgord â phob agwedd arall ar waith yr ysgol.   Mae angen alinio lles a chyflawniad, y cwricwlwm, data a dysgu ac addysgu er mwyn sicrhau bod profiadau dysgu yn hynod effeithiol a’u bod yn cyflawni’r pedwar diben.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Adroddiad interim ar y sector uwchradd

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o alwadau ffôn ymgysylltu a galwadau ffôn bugeiliol a wnaed i ysgolion uwchradd yn ystod Ionawr a Chwefror 2021. ...Read more
Adroddiad thematig |

Cymwysterau newydd

pdf, 1.43 MB Added 17/07/2018

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018. ...Read more
Adroddiad thematig |

Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion - Mehefin 2015

pdf, 963.55 KB Added 10/06/2015

Cyhoeddir yr adroddiad arolwg thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2014-2015. ...Read more
Adroddiad thematig |

Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 3 - Chwefror 2015

pdf, 820.13 KB Added 01/02/2015

Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yng nghylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. ...Read more