Adroddiad thematig |

Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 3 - Chwefror 2015

Share this page

Adroddiad thematig | 01/02/2015

pdf, 820.13 KB Added 01/02/2015

Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yng nghylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. Mae’r adroddiad yn archwilio safonau mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 3 a’r ffactorau sy’n effeithio ar gyflawniad, ac mae’n cynnwys astudiaethau achos arfer orau.

Argymhellion

Dylai adrannau mathemateg:

  • fonitro perfformiad disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chynnig ymyriadau targedig yn ôl yr angen
  • bodloni anghenion disgyblion sy’n cael anawsterau neu ddisgyblion mwy abl
  • cynyddu lefel yr her ar gyfer pob un o’r disgyblion trwy wneud yn siŵr bod:
     
    • gwersi’n cael eu strwythuro i ennyn diddordeb pob un o’r disgyblion, eu cymell a’u hymestyn
    • medrau datrys problemau mathemategol yn cael eu datblygu a’u cymhwyso mewn ystod eang o gyd-destunau bywyd go iawn
  • sicrhau bod gweithdrefnau asesu ac olrhain yn gadarn
  • gwella hunanarfarnu a chynllunio gwelliant adrannol
  • rhannu arfer orau ar draws yr ysgol ac arfarnu ffyrdd newydd o weithio

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • hwyluso rhwydweithiau ar gyfer rhannu arfer orau rhwng adrannau mathemateg
  • darparu cymorth, her a chyfleoedd datblygiad proffesiynol ar gyfer adrannau mathemateg ac athrawon unigol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ymchwilio i’r gwahaniaeth mewn deilliannau rhwng bechgyn a merched mewn mathemateg
  • mynd i’r afael â diffygion o ran cyflenwad athrawon mathemateg cymwys

Astudiaethau achos o arfer orau

  •  Cardiff High School, Cardiff
  • Cwmtawe Community School, Neath Port Talbot
  • Caerleon Comprehensive School, Newport
  • Cardinal Newman R.C. Comprehensive School, Rhondda Cynon Taf

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol