Adroddiad thematig |

Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion - Mehefin 2015

Share this page

Adroddiad thematig | 10/06/2015

pdf, 963.55 KB Added 10/06/2015

Cyhoeddir yr adroddiad arolwg thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2014-2015. Mae’n adrodd ar ddatblygu arweinyddiaeth effeithiol mewn ysgolion ac yn canolbwyntio ar ba mor effeithiol y mae arweinwyr ysgol yn ceisio creu diwylliant o ddatblygu arweinyddiaeth ac yn meithrin gallu i arwain. Cynhwysir astudiaethau achos o arfer orau.

Argymhellion

Dylai arweinwyr ysgol:

  • ddatblygu diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol ar gyfer pob aelod o staff ar bobl lefel yn eu hysgol
  • gwella cynllunio olyniaeth a throsglwyddo gwybodaeth gorfforaethol
  • nodi potensial arwain staff yn gynnar a chefnogi datblygu’u gyrfa
  • sicrhau bod strwythurau rheoli perfformiad yn talu sylw priodol i ddatblygu arweinwyr posibl y dyfodol
  • defnyddio’r safonau arweinyddiaeth fel y sail ar gyfer arfarnu’u medrau arwain eu hunain ac ar gyfer datblygu staff fel arweinwyr y dyfodol
     

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • ddarparu arweiniad i arweinwyr ysgol profiadol ar ddatblygu’u staff fel arweinwyr y dyfodol
  • darparu cyfleoedd i uwch arweinwyr ddatblygu’u medrau mewn meysydd allweddol fel herio tanberfformiad, defnyddio strategaethau i wella addysgu, a rhoi mentrau newydd ar waith
  • darparu neu gael hyfforddiant cyfrwng Cymraeg neu Saesneg effeithiol i arweinwyr ar bob lefel
  • hyrwyddo’r defnydd o’r safonau arweinyddiaeth a’r adolygiad arweinyddiaeth unigol i’r holl arweinwyr ysgol
     

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • weithredu strategaeth ar gyfer datblygu medrau arwain i ddarpar uwch arweinwyr ac uwch arweinwyr profiadol
  • cynnwys datblygu medrau arwain fel trywydd yn y safonau proffesiynol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, athrawon ac arweinwyr canol

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol