Adroddiad thematig |

Cymwysterau newydd

Share this page

Adroddiad thematig | 17/07/2018

pdf, 1.43 MB Added 17/07/2018

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018. Mae’n rhoi trosolwg o’r modd y mae ysgolion a cholegau yn cynllunio ac yn gweithredu’u cwricwlwm ar ôl cyflwyno’r cymwysterau TGAU newydd mewn Saesneg iaith, Cymraeg iaith, mathemateg, mathemateg-rhifedd, a Bagloriaeth Cymru.

Argymhellion

Dylai ysgolion a cholegau:

  • A1 Herio’r ystod gallu llawn a darparu tasgau ysgogol sy’n datblygu gwydnwch dysgwyr
  • A2 Sicrhau bod dysgwyr yn gwella eu hysgrifennu mewn Cymraeg a Saesneg
  • A3 Cael disgwyliadau uchel fod pob dysgwr yn cyfrannu’n llafar, yn enwedig yn Gymraeg
  • A4 Gwella medrau datrys problemau disgyblion mewn mathemateg ac mewn mathemateg-rhifedd
  • A5 Datblygu medrau darllen lefel uwch disgyblion mewn Saesneg, Cymraeg a mathemateg a Bagloriaeth Cymru
  • A6 Gwella perfformiad bechgyn mewn Cymraeg, Saesneg a Bagloriaeth Cymru
  • A7 Helpu mwy o ddisgyblion ennill y graddau uchaf ym Magloriaeth Cymru
  • A8 Darparu cyfleoedd gwell i ddisgyblion ddatblygu’u medrau rhifedd a TGCh ym Magloriaeth Cymru
  • A9 Ystyried yn ofalus eu staffio a’u hamserlennu ar gyfer Bagloriaeth Cymru a’r statws maent yn ei roi i’r cymhwyster
  • A10 Darparu hyfforddiant i arweinwyr canol i’w helpu i arfarnu safonau ac addysgu yn eu hadrannau
  • A11 Gweithio gyda’i gilydd yn well i sicrhau bod ganddynt drefniadau cyfreithiol, diogel a chynhwysfawr ar waith ar gyfer rhannu gwybodaeth am gyraeddiadau blaenorol disgyblion ac i ddatblygu rhwydweithiau o arfer broffesiynol

Yn ogystal:

  • A12 Dylai ysgolion ystyried ehangder eu cwricwlwm, gan gynnwys cyfleoedd ac anogaeth i astudio Saesneg llenyddiaeth a Chymraeg llenyddiaeth
  • A13 Dylai colegau gynyddu nifer y dysgwyr sy’n ailsefyll TGAU Cymraeg iaith

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol