Gyrfa gyda Estyn - Estyn

Gyrfa gyda Estyn


Two adults kneel beside young children playing with toys and a pumpkin in a nursery classroom, while another adult supports children at a play kitchen behind them.

Arolygwyr Ei Fawrhydi:

Rydym yn cyflogi Arolygwyr Ei Fawrhydi i ymuno â ni i gyflawni rhagoriaeth ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru. Mae rôl Arolygydd Ei Fawrhydi (AEM) yn un gyffrous ac amrywiol sy’n rhoi golwg unigryw i chi ar addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Ein harolygwyr allanol:

Rydyn ni hefyd yn recriwtio arolygwyr allanol i weithio ochr yn ochr ag Arolygwyr Ei Fawrhydi (AEM) fel rhan o dimau arolygu sy’n gwerthuso addysg a hyfforddiant ledled Cymru. Mae dod yn arolygydd allanol yn cynnig cyfle dysgu proffesiynol gwerthfawr. Mae’n eich galluogi i arsylwi arfer effeithiol a chymhwyso’r mewnwelediadau hynny i gefnogi gwelliant yn eich darpariaeth eich hun.

Ein tîm gwasanaethau canolog:

Rydym hefyd yn recriwtio ar gyfer amryw rolau proffesiynol yn ein tîm gwasanaethau canolog sy’n cwmpasu ystod o swyddogaethau craidd fel Pobl, TG a Gwasanaethau Swyddfa, Cyfathrebu a Digwyddiadau, Cynllunio a Chydlynu Arolygiadau, Llywodraethu ac Ysgrifenyddiaeth, Ystadegau ac Ymchwil a Cyllid a Chaffael.