Swyddi gwag – Arolygwyr Allanol
Arolygwyr allanol
Rydyn yn recriwtio arolygwyr allanol i weithio ochr yn ochr ag Arolygwyr Ei Fawrhydi (AEM) fel rhan o dimau arolygu sy’n gwerthuso addysg a hyfforddiant ledled Cymru. Mae dod yn arolygydd allanol yn cynnig cyfle dysgu proffesiynol gwerthfawr. Mae’n eich galluogi i arsylwi arfer effeithiol a chymhwyso’r mewnwelediadau hynny i gefnogi gwelliant yn eich darpariaeth eich hun.