Beth ydyn ni’n chwilio amdano
Daw ein AEF o ystod amrywiol o gefndiroedd arwain mewn addysg a hyfforddiant. Pa lwybr bynnag y mae eich gyrfa wedi’i ddilyn hyd yma, bydd gennych hanes cryf o welliant gyda phrofiad o arloesi ar lefel strategol. Byddwch chi hefyd yn deall y tirlun addysg a hyfforddiant ehangach a rôl arolygu fel grym ar gyfer gwella.
Gallwch, er enghraifft, fod yn:
- uwch arweinydd mewn ysgol uwchradd neu’n uwch arweinydd uwchradd mewn ysgol bob oed
- cyfarwyddwr / cyfarwyddwr cynorthwyol gwasanaeth gwella ysgolion neu bartner gwella ysgolion
- arweinydd maes gwasanaeth mewn cyfarwyddiaeth addysg awdurdod lleol
- rheolwr neu’n arweinydd ansawdd mewn darparwr prentisiaethau dysgu yn y gwaith
- is-bennaeth neu’n gyfarwyddwr dysgu mewn coleg addysg bellac
- prif swyddog neu’n arweinydd ieuenctid mewn darparwr gwaith ieuenctid gwirfoddol