Amrywiaeth a chynhwysiant - Estyn

Amrywiaeth a chynhwysiant


Seven people wearing blue Estyn T-shirts smile for a group photo in a public indoor space.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cefnogi a’u bod yn gallu ffynnu. Yn Estyn, rydym yn gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a phrofiadau bywyd sy’n ein helpu i gryfhau fel sefydliad a gwneud penderfyniadau gwell a mwy gwybodus ar gyfer y dysgwyr a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Rydym yn gwybod bod tîm amrywiol yn dod â syniadau newydd, sgyrsiau cyfoethocach a deilliannau cryfach. Dyma pam rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir, diwylliant a phrofiad.

Un flaenoriaeth strategol allweddol yw cynyddu amrywiaeth ein gweithlu. Mae ein hymrwymiad i recriwtio a denu talent amrywiol yn ymestyn i annog ceisiadau’n weithredol gan grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl anabl. Rydym yn mabwysiadu arferion recriwtio cynhwysol, gan gynnwys llunio rhestr fer o ymgeiswyr yn ddall ac rydym yn falch o fod yn gyflogwr sy’n hyderus o ran anabledd, gan gynnig cymorth ag addasiadau trwy ein proses er mwyn gwneud yn siŵr y gallwch fod ar eich gorau.

Trwy gydweithio â’n gilydd a dathlu’r hyn sy’n gwneud pob un ohonom yn unigryw, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth ystyrlon i addysg yng Nghymru.