Buddion gweithio i Estyn
Yn ogystal â chydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd, boddhad swydd, diwylliant cefnogol, cyfleoedd dysgu a datblygu parhaus a datblygiad proffesiynol, gallwch hefyd ddisgwyl manteision eraill, gan gynnwys y canlynol:
| Cyflog cystadleuol | a phwyntiau cynyddrannol – sy’n golygu y byddwch fel arfer yn cyrraedd uchafswm y raddfa gyflog ymhen tair blynedd ar ôl ymuno â ni. |
| Hawl hael i wyliau | 41 diwrnod i ffwrdd o’r gwaith bob blwyddyn (sy’n cynnwys 31 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus / braint (pro-rata ar gyfer y rhai sy’n gweithio’n rhan-amser). |
| Gweithio hyblyg | rydym yn gweithio system oriau hyblyg, gan roi’r rhyddid i chi lunio’ch diwrnod gwaith mewn ffordd sy’n addas i chi ac sy’n bodloni anghenion busnes. |
| Pensiwn rhagorol | pan fyddwch yn ymuno ag Estyn, byddwch yn dod yn rhan o gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil fel mater o drefn, sef un o’r cynlluniau pensiwn mwyaf gwerthfawr yn y DU. Rydym yn buddsoddi yn eich dyfodol trwy gyfrannu 27.9% o’ch cyflog sy’n cyfateb i £8,274 y flwyddyn, gan eich helpu i gronni pensiwn cryf a sicr ar gyfer yn ddiweddarach mewn bywyd. |
| Cefnogi eich lles | rydym hefyd yn darparu rhaglen cymorth i gyflogeion, gwiriadau iechyd blynyddol am ddim, pigiadau ffliw tymhorol, cynllun gofal llygaid am ddim a’r gallu i fanteisio ar Gynlluniau Yswiriant Iechyd trwy Ofal Iechyd y Gwasanaeth Sifil. |
| Cefnogaeth i’ch bywyd teuluol | polisïau hael sy’n ystyriol o deuluoedd, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu. |
| Arbedion di-dreth | y gallu i fanteisio ar gynllun beicio i’r gwaith. |
| Cynnigion arbennig a gostyngiadau | mynediad at amrywiaeth o ostyngiadau a chynigion unigryw drwy Glwb Cymdeithasol y Gwasanaeth Sifil – Chwaraeon a Hamdden, Cymdeithas Moduro’r Gwasanaeth Sifil, Cymdeithas Yswiriant y Gwasanaeth Sifil a’r Elusen i Weision Sifil. |