Pam gweithio i Estyn?
Gyrfa gyda phwrpas:
Ni yw’r arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Ein diben yw gwella ansawdd addysg a hyfforddiant a chefnogi’r deilliannau gorau posibl ar gyfer dysgwyr ledled Cymru. Trwy ein harolygiadau, rydym yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd a’r llywodraeth am ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant.
Rydym hefyd yn cefnogi ysgolion, colegau a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill i wella, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar bolisi addysg, ac yn cyhoeddi adroddiadau ar ystod eang o faterion a themâu. Gallwch ddysgu mwy am ein gwaith yma.
Darllenwch fwy am ein blaenoriaethau a’n gwerthoedd yma
Lle i berthyn a thyfu:
Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ddysgwyr ledled Cymru, ac mae ein staff ymroddgar yn ganolog i wneud i hynny ddigwydd.
Pan fyddwch yn ymuno ag Estyn, byddwch yn dod yn rhan o sefydliad croesawgar, proffesiynol a chydweithredol lle caiff eich cyfraniad ei werthfawrogi. O’r diwrnod cyntaf, byddwch yn cael cyfnod ymsefydlu cynhwysfawr a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall eich rôl a sut mae’n cyfrannu at ein diben ar y cyd. Byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn eich tîm ac ar draws y sefydliad.
Rydym wedi ymrwymo i’ch datblygiad, hefyd. Byddwch yn elwa ar ystod o gyfleoedd dysgu a datblygu i feithrin eich medrau, ehangu eich profiad a chefnogi eich gyrfa.
Os hoffech chi wneud gwahaniaeth i addysg a hyfforddiant yng Nghymru tra’n gweithio i sefydliad sy’n gwerthfawrogi eich cyfraniad, eich datblygiad a’ch lles, mae Estyn yn lle gwych i feithrin eich gyrfa.