Article details

Gareth K
By Gareth Kiff, HMI
Postiadau blog |

Deall gwerth gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid

Share this page

Methodoleg gydnabyddedig ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc yw ‘gwaith ieuenctid’, sy’n cael ei chefnogi gan Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a chymwysterau proffesiynol. Mae gwaith ieuenctid yn adeiladu ar sefydlu perthnasoedd gwaith da gyda phobl ifanc 11-25 mlwydd oed lle caiff eu hanghenion eu rhoi yn gyntaf, ni waeth p’un a yw’r cysylltiadau â phobl ifanc yn rhai gwirfoddol neu orfodol. Mae hyfforddiant gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi’i seilio ar ddiffiniadau cyfreithiol o waith ieuenctid, ac mae’n dilyn egwyddorion gwaith ieuenctid i gyflwyno cyfleoedd dysgu sy’n gynhwysol, ac yn addysgiadol, yn fynegiannol, yn gyfranogol ac yn rymusol, yn ogystal.

Dyna’r ddamcaniaeth. Ond faint caiff gwaith ieuenctid ei werthfawrogi ar draws y maes addysg?

Yn ein hadroddiad yn 2018; Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yng Nghymru: Gwerth Gwaith Ieuenctid, amlinellwyd lle gwaith ieuenctid mewn gwasanaethau cymorth ieuenctid. Er bod yr adroddiad hwn yn dangos rôl hanfodol y gwaith hwn, amlygodd yr adroddiad sawl mater. Roedd y rhain yn cynnwys diffyg ‘strategaeth gyffredinol ar gyfer cynllunio, darparu neu ariannu gwasanaethau, ac nid oes gan lunwyr polisi a darparwyr un weledigaeth glir a rennir ar gyfer cyflwyno gwasanaethau, neu sut mae gwaith ieuenctid yn cyfrannu at ddatblygiad personol pobl ifanc a’u rôl yn y gymuned a’r gymuned ehangach’. 

Mater arall cyffredin a nodwyd oedd bod y term ‘gwaith ieuenctid’ yn aml yn cael ei ddrysu â ‘gwaith gyda phobl ifanc’. Mae hyn yn arwain at ideolegau a blaenoriaethau sy’n gwrthdaro, nad yw’n helpu cefnogi datblygiad polisi. Er enghraifft, mae gwaith ieuenctid yn cyfeirio at fethodoleg broffesiynol ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc. Mae’n seiliedig ar set glir o werthoedd ac yn cael ei ategu gan natur wirfoddol y berthynas rhwng y person ifanc a’r gweithiwr ieuenctid, ond yn aml, caiff hyn ei ddrysu â’r lleoliadau y caiff ei gyflwyno ynddynt. Caiff ei ddrysu hefyd â gwaith cyffredinol gyda phobl ifanc hyd yn oed pan nad oes unrhyw agwedd gefnogol nac addysgol.’

pdf, 1.33 MB Added 24/07/2018

Strategaethau

Ers ein hadroddiad yn 2018, mae pethau wedi symud ymlaen. Yn ogystal â chyhoeddi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion, cyhoeddodd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru a ddatblygwyd ar y cyd â phobl ifanc a’r sector. 

Dyma 5 nod allweddol Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru Llywodraeth Cymru: 

  • Mae pobl ifanc yn ffynnu 
  • Mae gwaith ieuenctid yn hygyrch a chynhwysol 
  • Caiff staff gwaith ieuenctid gwirfoddol a phroffesiynol cyflogedig eu cefnogi trwy gydol eu gyrfaoedd i wella eu harfer 
  • Caiff gwaith ieuenctid ei werthfawrogi a’i ddeall 
  • Model cynaliadwy ar gyfer cyflwyno gwaith ieuenctid 

Hefyd, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu gan Lywodraeth Cymru, sy’n amlinellu trefniadau ar gyfer cyflwyno’r strategaeth gwaith ieuenctid.

Sut mae Egwyddorion a Dibenion gwaith ieuenctid yn adlewyrchu’r dyheadau a’r gwerthoedd yn Dyfodol Llwyddiannus

youth work blog infographic cy

Canfyddiadau diweddar

Ym mis Hydref 2020, fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad Gwerth Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid – Model cynaliadwy i Gymru. Mae’r adroddiad yn rhoi darlun cadarnhaol o hyfforddiant (lefel 2 hyd at lefel ôl-raddedig) ledled Cymru. Mae’r 3 phrif ganfyddiad cyntaf yn gosod y naws; 

‘Mae cymwysterau gwaith ieuenctid yn arfogi myfyrwyr â chefndir cadarn mewn arfer gwaith ieuenctid, ac yn rhoi iddynt y medrau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu proffesiwn. Mae’r sector gwaith ieuenctid wedi gwneud cynnydd gwerthfawr yn erbyn bron pob un o’r argymhellion yn ‘Arolwg o hyfforddiant cymwysterau proffesiynol ar gyfer gweithwyr ieuenctid yng Nghymru (Estyn, 2010).’ 

‘Yn gyffredinol, mae myfyrwyr gwaith ieuenctid yn cyflawni’n dda, er bod llawer ohonynt wedi dechrau mewn addysg uwch o gefndiroedd addysg a chymdeithasol annhraddodiadol, a gallent fod wedi wynebu heriau sylweddol yn eu bywydau. Yn aml, mae eu profiadau eu hunain yn golygu y gallant ddeall y materion sy’n effeithio ar bobl ifanc, a dangos empathi.’

‘Mae rhaglenni hyfforddiant gwaith ieuenctid yn cyd-fynd yn dda â’r pum nod allweddol a amlinellir yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019. Mae cynnwys cyrsiau ar bob lefel yn rhoi cydbwysedd addas rhwng hyfforddiant academaidd ac ymarferol, ac yn rhoi i fyfyrwyr y medrau sydd eu hangen arnynt i ymgymryd â swyddi mewn amrywiaeth eang o leoliadau gwaith ieuenctid a chymuned.’ 

Fodd bynnag, amlygodd ein prif ganfyddiadau hen gamdybiaethau ynghylch rôl a gwerth gwaith ieuenctid: 

‘Mae llawer o ysgolion uwchradd yn dechrau gweld gwerth cael gweithiwr ieuenctid yn aelod o’r staff, ond mewn llawer o achosion, maent yn gweithio gyda phobl ifanc heriol yn unig, ac fe gânt eu gweld fel gweithwyr sy’n cynorthwyo â rheoli ymddygiad, neu gymorth ar gyfer pobl ifanc â ‘phroblemau’, ac yn aml, ni chânt eu gwerthfawrogi’n ddigonol fel addysgwyr drwy eu hawl eu hunain.’

‘Ar ôl hyfforddi, nid yw’n ofynnol i weithwyr ieuenctid, fel athrawon, gwblhau blwyddyn brawf, ac nid ydynt yn gymwys i gael cyfleoedd dysgu proffesiynol fel hawl chwaith. Mae’r ffaith nad oes statws gweithiwr ieuenctid cymwys sydd gyfwerth â statws athro cymwys (SAC) yn golygu nad yw gweithwyr ieuenctid yn elwa yn yr un ffordd ag athrawon ar hyfforddiant parhaus ar gyfer eu medrau proffesiynol, a chael cydnabyddiaeth amdanynt. Hefyd, mae diffyg cyllid i gefnogi cyfleoedd hyfforddi parhaus. Ni chaiff uwch weithwyr ieuenctid eu cynnwys mewn rhaglenni arweinyddiaeth addysgol cenedlaethol na rhanbarthol, ac mae hyn yn rhwystro datblygiad arweinyddiaeth o fewn y proffesiwn.’

Gallwch weld yr holl ganfyddiadau a’r rhestr lawn o argymhellion yn yr adroddiad. Mae argymhelliad ar gyfer awdurdodau lleol yn nodi y dylent annog ysgolion i gydnabod y medrau proffesiynol a’r wybodaeth broffesiynol y mae gweithwyr ieuenctid yn eu cynnig i gefnogi datblygiad y cwricwlwm newydd. Hefyd, dylai consortia rhanbarthol archwilio ffyrdd i gynnwys gweithwyr ieuenctid ochr yn ochr ag athrawon mewn dysgu proffesiynol a chyfleoedd hyfforddi arweinyddiaeth addysgol. Darllenwch yr adroddiad llawn i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.
 

pdf, 1.98 MB Added 20/10/2020

Sut mae’r pandemig wedi effeithio ar waith ieuenctid?

Yn ystod y pandemig, mae’r cyd-destun newydd wedi amlygu gwerth a hyblygrwydd gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid. Cyn y pandemig, yn ystod ein gwaith maes ar gyfer adroddiad 2020, fe’n tarwyd gan angerdd myfyrwyr a darlithwyr dros eu maes dewisol. Mae’n fwy na phroffesiwn iddyn nhw; mae’n alwedigaeth yng ngwir ystyr y gair. Maent yn credu yn yr hyn a wnânt. 

Rydym ni wedi bod yn coladu gwybodaeth am sut ymatebodd gwahanol sectorau i COVID-19. Eto, roedd y darlun yn y sector gwaith ieuenctid yn un cadarnhaol.

Canfuom fod darparwyr gwaith ieuenctid lleol a chenedlaethol yn adeiladu ar batrymau sefydledig o weithio mewn partneriaeth i fod yn rhagweithiol a hyblyg wrth ymateb i’r pandemig. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae gweithwyr a hyfforddwyr ieuenctid wedi datblygu a hyrwyddo dealltwriaeth o’r materion sy’n gysylltiedig â gwaith ieuenctid digidol. Helpodd hyn weithwyr ieuenctid i fod mewn sefyllfa fanteisiol wrth gyflwyno gwasanaethau a chyswllt ar-lein. 

O ganlyniad, sefydlodd gweithwyr ieuenctid ledled Cymru grwpiau rhithwir er mwyn i bobl ifanc allu aros mewn cysylltiad. Roedd y rhain yn cynnwys grwpiau gweithgarwch ar gyfer pobl ifanc ag anableddau, gofalwyr ifanc a grwpiau ar gyfer mamau ifanc, lle gallant drafod materion ac ymarfer medrau fel coginio gyda’i gilydd ar-lein. Cafodd pobl ifanc sy’n agored i niwed eu targedu’n arbennig i gymryd rhan. Weithiau, roedd gweithwyr ieuenctid yn danfon pecynnau i gartrefi er mwyn i bobl ifanc allu cymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein gyda’i gilydd, er enghraifft y cynhwysion i goginio rhywbeth neu’r rhannau i adeiladu bwrdd sgrialu. 

Ym Mlaenau Gwent, sefydlodd gweithwyr ieuenctid glybiau ieuenctid rhithwir ar-lein, a chanfuwyd bod mwy o bobl ifanc yn ‘mynychu’r’ clybiau hyn yn rheolaidd nag a fyddai fel arfer yn mynychu eu clybiau mewn canolfan ffisegol. Roedd y clwb ieuenctid rhithwir cyfrwng Cymraeg a sefydlwyd ganddynt yn hynod lwyddiannus, ac mae’n helpu newid yr ymagwedd at waith ieuenctid cyfrwng Cymraeg. 

Gweithiodd llawer o weithwyr ieuenctid mewn hybiau, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, i ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc. Parhaodd gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig i gysylltu â phobl ifanc y tu allan i’w cartrefi, yn enwedig y rhai sy’n achosi pryder i drigolion lleol. Defnyddiodd y gweithwyr ieuenctid hyn eu medrau i feithrin perthnasoedd â phobl ifanc, hyrwyddo eu lles, eu helpu i ystyried sut mae eu gweithredoedd yn effeithio ar bobl eraill, a’u cyfeirio at gymorth, lle bo’n berthnasol. 
 

A yw agweddau tuag at weithwyr ieuenctid yn newid?

Yn ddiweddar, gofynnwyd i weithwyr ieuenctid gyflwyno ar draws ystod eang o weithgareddau. Maent wedi gwneud hyn yn frwdfrydig, yn egnïol ac yn effeithiol. 

Fodd bynnag, mae gweithwyr ieuenctid yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol fel addysgwyr proffesiynol, ac yn dweud nad yw medrau’n cael eu defnyddio’n ddigonol, yn enwedig mewn lleoliadau addysg ffurfiol ac unedau cyfeirio disgyblion. 

Canfuom fod llawer o ysgolion uwchradd yn dechrau gweld gwerth cael gweithiwr ieuenctid yn aelod o’r staff, ond mewn llawer o achosion, maent yn gweithio gyda’r bobl ifanc mwyaf heriol yn unig, ac fe gânt eu gweld fel cymorth ar gyfer rheoli ymddygiad, neu fel cymorth i bobl ifanc â ‘phroblemau’, yn hytrach nag am eu harbenigedd addysgol a’u medrau penodol yn gweithio gyda phobl ifanc.’

Mae’n amlwg, mewn iaith arolygu, fod meysydd i’w datblygu o hyd…

Ychwanegu sylw newydd

Testun plaen

  • No HTML tags allowed.
  • Llinellau a pharagraffau yn torri'n awtomatig.
  • Web page addresses and email addresses turn into links automatically.