Adroddiad thematig |

Gwerth Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid - Model cynaliadwy i Gymru

Share this page

Adroddiad thematig | 20/10/2020

pdf, 1.98 MB Added 20/10/2020

Diben yr adroddiad hwn yw gwerthuso ansawdd hyfforddiant gwaith ieuenctid a phriodoldeb yr hyfforddiant i roi i weithwyr ieuenctid y medrau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu rôl a bodloni gofynion gwaith ieuenctid modern ym mhob ffurf.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A1 Barhau i weithio gyda phob partner yn y sector gwaith ieuenctid i gefnogi datblygiad gwaith ieuenctid a hyfforddiant gwaith ieuenctid, gan gynnwys gallu arweinyddiaeth
  • A2 Parhau i weithio gyda CGA ac ETS i ddiweddaru a gwella’r trefniadau cofrestru ar gyfer gweithwyr ieuenctid i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cael ei drin yn yr un ffordd â phroffesiynau addysg eraill
  • A3 Comisiynu’r archwiliad medrau llawn ar gyfer y sector, i gynnwys medrau sydd eu hangen ar gyflogwyr a medrau presennol gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid sydd wedi eu cofrestru gyda CGA a’r rhai sy’n ymgymryd â gwaith ieuenctid ac nid ydynt wedi eu cofrestru
  • A4 Ymchwilio i ddarpariaeth llwybrau prentisiaethau ffurfiol ar gyfer hyfforddi gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid
  • A5 Gweithio gyda darparwyr hyfforddiant gwaith ieuenctid a sefydliadau perthnasol eraill i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn hyfforddiant gwaith ieuenctid.

Dylai darparwyr hyfforddiant gwaith ieuenctid:

  • A6 Wneud yn siŵr fod gweithwyr ieuenctid a myfyrwyr o broffesiynau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn cael cyfleoedd i hyfforddi gyda’i gilydd
  • A7 Gwella argaeledd, amrywiaeth ac ansawdd lleoliadau gwaith

Dylai awdurdodau lleol:

  • A8 Annog ysgolion i gydnabod medrau arbenigol a gwybodaeth broffesiynol gweithwyr ieuenctid ar gyfer cefnogi datblygiad y cwricwlwm newydd
  • A9 Cefnogi a chyfrannu at ddatblygu cyrsiau ar gyfer hyfforddi gweithwyr ieuenctid statudol a gwirfoddol, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai addysg

Dylai consortia rhanbarthol:

  • A10 Archwilio ffyrdd o gynnwys gweithwyr ieuenctid ochr yn ochr ag athrawon mewn cyfleoedd hyfforddiant dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth addysgol

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol