Adroddiad thematig |

Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yng Nghymru

Share this page

Adroddiad thematig | 24/07/2018

pdf, 1.33 MB Added 24/07/2018

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018, lle gofynnodd Llywodraeth Cymru i Estyn gynnal arolwg o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.Mae hefyd yn rhan o waith thematig ehangach a wneir ar y cyd gan Arolygu Cymru. Bydd pob corff arolygu, archwilio a rheoleiddio yng Nghymru yn adrodd ar y cymorth sy’n cael ei roi i bobl ifanc o wasanaethau gwahanol. Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn adrodd ar drefniadau i gefnogi’r pontio rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd gwasanaethau a threfniadau awdurdodau lleol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal. Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio ymagwedd strategol Llywodraeth Cymru at wella lles pobl ifanc 16-24 oed gyda’r bwriad o nodi gwersi allweddol i’r dyfodol.

Argymhellion

Dylai awdurdodau lleol:

  • A1 Ymgynghori’n ystyrlon gyda phobl ifanc, fel eu bod yn gallu dylanwadu ar gynllunio ar gyfer gwasanaethau sydd ar gael iddynt ar lefel leol, a’u harfarnu
  • A2 Darparu mannau diogel i bobl ifanc mewn ardaloedd lleol fel bod ganddynt fynediad at wasanaethau, a gweithgareddau, sy’n cynorthwyo’u datblygiad fel unigolion, ac fel aelodau o’u cymuned leol
  • A3 Gwneud yn siŵr bod cynlluniau strategol yn cynnwys blaenoriaethau clir wedi’u llywio gan wybodaeth leol ar gyfer gwasanaethau sy’n cynorthwyo pobl ifanc
  • A4 Gwneud yn siŵr bod adrannau awdurdod lleol a chyrff eraill yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc, sy’n mynd i’r afael â’u hanghenion

Dylai darparwyr:

  • A5 Wneud yn siŵr bod eu gwasanaethau yn galluogi pobl ifanc i nodi drostyn nhw eu hunain beth yw eu diddordebau, eu nodau, a’u hanghenion
  • A6 Gweithio mewn partneriaeth ar lefel leol a rhanbarthol i wella mynediad at yr ystod o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc
  • A7 Gwneud yn siŵr bod safonau ac egwyddorion gwaith ieuenctid proffesiynol yn cael eu defnyddio gan weithwyr yn yr holl brosiectau gwasanaeth cymorth ieuenctid

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 Ddarparu’r sylfaen polisi ar gyfer ymgorffori gwaith ieuenctid, fel ffordd o weithio gyda phobl ifanc, yn yr holl wasanaethau
  • A9 Egluro’r defnydd o’r derminoleg ‘gwaith ieuenctid’, ‘gwasanaeth ieuenctid’, a ‘gwasanaethau cymorth ieuenctid’ yng Nghymru er mwyn darparu iaith a ddeellir yn gyffredinol ar gyfer datblygu a chyflawni polisi
  • A10 Sefydlu ffyrdd o ddwyn awdurdodau lleol a’u partneriaid i gyfrif am ansawdd, ystod a’r mathau o wasanaethau cymorth ieuenctid a ddarparant yn eu hardal
  • A11 Cynnwys cymhwyster, hyfforddiant a datblygiad parhaus gweithwyr ieuenctid yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Genedlaethol Cymru

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol