Mae cynllunio strategol Prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro yn effeithiol, ac yn cyd-fynd ag angen lleol a chenedlaethol a sectorau blaenoriaethol medrau. Mae wedi gweithio’n dda gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddatblygu rhaglenni newydd arloesol, gan gynnwys gweithio gyda’r sector medrau creadigol a diwylliannol i gynnal rhaglen ddynodedig o brentisiaethau ar y cyd mewn treftadaeth ddiwylliannol ar gyfer 33 o ddysgwyr nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NACH).
Mae’r coleg wedi gweithio’n dda gydag awdurdodau lleol i godi proffil a dealltwriaeth o’r llwybrau trwy brentisiaethau a’r cyfleoedd y maent yn eu darparu. Mae’n hyrwyddo prentisiaethau mewn ysgolion lleol ac wedi cymryd rhan mewn heriau ysgolion i annog pobl ifanc i ddilyn prentisiaethau technegol.
Mae’r coleg wedi gweithio’n galed i apelio at grwpiau nad oes cynrychiolaeth ddigonol ohonynt, fel y rhai o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a’r rhai o ardaloedd llai cefnog, gan ddatblygu cysylltiadau â chyflogwyr lleol a grwpiau cymunedol, gan gynnal digwyddiadau ymwybyddiaeth a recriwtio o fewn y cymunedau hyn. Datblygodd y coleg brentisiaethau newyddiaduraeth Deloitte a’r BBC i gynyddu amrywiaeth. Mae hefyd wedi cynllunio a chyflwyno rhaglenni ategol fel interniaethau a gefnogir yn Dow ar gyfer y rhai ag anawsterau ac anableddau dysgu.
Mae’r coleg yn gweithio gydag ystod eang o gyflogwyr, gan gefnogi mewnfuddsoddiad a pharu medrau prentisiaid yn effeithiol, er enghraifft trwy ddatblygu prentisiaethau gwasanaethau ariannol yn y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yng Nghaerdydd. Mae’r gwaith hwn wedi arddangos prentisiaethau gyda chyflogwyr allweddol, yn cynnwys Aston Martin a Future PLC.