Adroddiad thematig |

Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr

Share this page

Adroddiad thematig | 23/03/2021

pdf, 760.12 KB Added 23/03/2021

Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr - Gwaith darparwyr addysg bellach, dysgu yn y gwaith a dysgu oedolion yn y gymuned yn ystod y pandemig COVID-19

Argymhellion

Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned:

  • A1 Dargedu adnoddau i hybu iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol yn ofalus er mwyn osgoi gorlwytho dysgwyr a staff â gormod o wybodaeth
  • A2 Nodi’n ofalus y dysgwyr hynny sydd â’r risg fwyaf o ymddieithrio rhag dysgu neu gael profiad o broblemau iechyd meddwl a lles emosiynol, a monitro eu lles yn rheolaidd
  • A3 Blaenoriaethu darparu cymorth yn ôl yr angen i sicrhau bod pob un o’r dysgwyr y mae angen cymorth brys arnynt â’u hiechyd meddwl a’u lles emosiynol yn cael cymorth cyn gynted ag y bo modd
  • A4 Cydweithio mor agos ag y bodd modd ag asiantaethau allanol i sicrhau bod cymorth cyffredinol ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol mor ddi-dor ag y bo modd a lleihau, neu osgoi yn ddelfrydol, yr angen am nifer o fannau cyswllt
  • A5 Ei gwneud yn glir sut y gall pob dysgwr fanteisio ar gymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles meddyliol, gan gynnwys y rhai sy’n astudio ag isgontractwyr neu ddarparwyr partner
  • A6 Sicrhau bod yr holl staff cwnsela, ac aelodau staff eraill mewn rolau tebyg, yn cael goruchwyliaeth neu fentora priodol, ac yn ymgymryd â dysgu proffesiynol penodol ar sut i ddarparu cymorth o bell yn effeithiol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A7 Sicrhau y caiff deilliannau prosiectau iechyd meddwl a ariennir gan Lywodraeth Cymru eu gwerthuso’n llawn, a rhannu’r canfyddiadau ar draws pob sector ôl-16

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol