Adroddiad thematig |

Chwalu rhwystrau rhag prentisiaethau - Hydref 2015

Share this page

Adroddiad thematig | 22/10/2015

pdf, 784.01 KB Added 22/10/2015

Cyhoeddodd Estyn y cyntaf o ddau adroddiad yn Nhachwedd 2014. Mae’r adroddiad yn nodi’r rhwystrau sy’n atal dysgwyr o gymunedau pobl dduon ac ethnig lleiafrifol a’r rhai ag anableddau rhag ymgymryd â rhaglenni prentisiaeth. Mae’r ail adroddiad hwn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn yr adroddiad cyntaf. Mae’n nodi enghreifftiau o arfer dda yn hyrwyddo amrywiaeth mewn prentisiaethau, gyda ffocws ar bobl ifanc o gymunedau pobl dduon ac ethnig lleiafrifol a phobl ifanc ag anableddau, ynghyd â nodi enghreifftiau o arfer dda yn ymwneud â gweithio ar y cyd rhwng darparwyr, cyflogwyr a chymunedau i gyflawni amrywiaeth mewn prentisiaethau.

Gellir grwpio’r rhwystrau y mae dysgwyr anabl yn eu hwynebu yn bedwar maes, yn ymwneud â’r swydd, y cyflogwr, y gweithiwr a’r cymorth.  Mae rhwystrau’n bodoli o ran natur y swyddi sy’n cael eu cynnig, y diffyg dealltwriaeth ymhlith cyflogwyr ynglŷn ag anghenion gweithwyr anabl, lefel hunanhyder isel darpar weithwyr, a pha mor anodd yw hi i gael at wasanaethau’r Ganolfan Byd Gwaith. 

Mae darparwyr dysgu yn y gwaith ac asiantaethau cyflogaeth yn cynorthwyo cyflogwyr i addasu arferion er mwyn integreiddio cleientiaid ag anableddau yn y gweithle yn gyfartal.  Fodd bynnag, nid yw rôl darparwyr wrth chwalu rhwystrau wedi’i sefydlu’n ddigon da ac nid oes digon o gysylltiadau rhwng asiantaethau allanol, cyflogwyr a darparwyr.

Rhwystr mawr i ddysgwyr duon ac ethnig lleiafrifol yw amgyffrediad eu rhieni mai i’r rheiny sydd heb wneud yn dda yn yr ysgol y mae prentisiaethau. Mae darparwyr dysgu yn y gwaith yn mynd i’r afael â’r amgyffredion negyddol hyn trwy gyflogi swyddogion recriwtio arbenigol sy’n darparu gwell gwybodaeth, cymorth ac arweiniad i bobl ifanc. 

The report contains a number of case studies on how barriers to apprenticeship can be overcome, including work undertaken by Cwm Tawe Health Board, and Cardiff and the Vale University Health Board. 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol