Arfer Effeithiol |

Teilwra hyfforddiant prentisiaeth i anghenion dysgwyr

Share this page

Nifer y disgyblion
2300
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae’r coleg a’i bartneriaid yn gwasanaethu tair ardal awdurdod lleol Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych, sydd â chyfanswm poblogaeth o bron i 400,000.  Maent yn gweithio mewn partneriaeth â thros 1,100 o gyflogwyr o bob maint ar draws y rhanbarth, gan gynnwys Airbus a Chyngor Sir y Fflint.  Mae tua 1,600 o ddysgwyr yn cwblhau fframweithiau prentisiaeth bob blwyddyn.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae cynllun strategol y darparwr yn alinio darpariaeth ag anghenion cyflogwyr, datblygiad economaidd rhanbarthol a’r cynnydd yn nifer y prentisiaethau uwch a phrentisiaethau gradd.  Mae gan uwch arweinwyr gysylltiadau cryf iawn â chyflogwyr a grwpiau strategol allweddol.  Mae hyn yn galluogi’r darparwr i ddatblygu darpariaeth deilwredig, ymatebol, sy’n diwallu anghenion cyflogwyr ac sydd â rôl strategol werthfawr yn yr economi ranbarthol.

Datblygwyd strategaeth y darparwr i adeiladu ar eu trefniadau llwyddiannus presennol ar gyfer ymgysylltu â chyflogwyr.  Y nod clir oedd cryfhau trefniadau presennol i wneud yn siŵr fod hyfforddiant yn gweddu’n agos i anghenion unigol cyflogwyr.  Mae strategaeth y darparwr, sydd wedi’i diffinio’n glir, wedi cael ei datblygu a’i chryfhau dros gyfnod.  O ganlyniad, caiff ei defnyddio’n gyson ar draws y sefydliad gan bob un o’r staff.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer sy’n arwain y sector

Nodwedd ragorol o’r darparwr yw’r ffordd y mae’n ymgysylltu â chyflogwyr.  Un o amcanion strategol allweddol y darparwr yw diwallu anghenion unigol y darparwr yn awr ac yn y dyfodol, o dan ymbarél ‘dysgu wedi’i arwain gan y cyflogwr’.  Mae’r darparwr yn aelod gweithgar o’r economi ranbarthol, ac mae’n gweithio’n hynod effeithiol i ymgysylltu â chyflogwyr o bob math a maint, o ficrofusnesau i sefydliadau rhyngwladol mawr.  Mae’r darparwr wedi datblygu a sefydlu partneriaethau hirbarhaus a hynod fuddiol, sy’n rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr, ac yn cynorthwyo twf economaidd yn y rhanbarth.

Mae aseswyr a thiwtoriaid y darparwr yn gweithio’n agos iawn ac yn hynod effeithiol â busnesau i ddatblygu dealltwriaeth glir o anghenion hyfforddi eu staff.  Mae staff y darparwr yn gweddu anghenion hyfforddi unigol eu dysgwyr yn ofalus i weithgareddau a phrofiadau ychwanegol teilwredig sy’n ymestyn eu profiadau hyfforddi ymhellach.  Er enghraifft, mae dysgwyr mewn un cwmni yn elwa ar hyfforddiant roboteg teilwredig ac mae dysgwyr mewn cwmni arall yn cael amser ychwanegol ar gyfer dosbarthiadau Cymraeg i ddiwallu anghenion eu busnes.  Yn y sector gofal, mae dysgwyr yn elwa ar weithdai arbenigol ychwanegol i gefnogi eu rolau swydd.

Mae aseswyr yng Ngholeg Cambria yn cynnal isafswm o ddeuddydd o leoliadau diwydiannol buddiol iawn, bob blwyddyn, i sicrhau bod eu medrau galwedigaethol proffesiynol yn gyfoes, a’u bod yn gyfarwydd ag arferion presennol a’r dechnoleg ddiweddaraf.  Mae hyn yn eu helpu i gynnal lefelau uchel o hygrededd proffesiynol yn eu sector.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i strategaeth ac ymagwedd y darparwr, mae dysgwyr wedi datblygu lefelau cynyddol o gymhelliant, gan ddatblygu ystod ehangach o fedrau a gwybodaeth a chael eu hyfforddi i safon uwch.  Mae cyfraddau boddhad cyflogwyr wedi cynyddu’n sylweddol gan fod anghenion hyfforddi eu staff unigol yn cael eu diwallu’n agos.  Mae’r strategaeth hon a’r dull hwn wedi arwain at gynnydd yn nifer y dysgwyr a’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan mewn hyfforddiant prentisiaeth, yn enwedig ar draws y sectorau peirianneg a gweithgynhyrchu, arweinyddiaeth a rheolaeth a gofal cymdeithasol.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr

Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr - Gwaith darparwyr addysg bellach, dysgu yn y gwaith a dysgu oedolion yn y gymuned yn ystod y pandemig COVID-19 ...Read more
Adroddiad thematig |

Cyrsiau safon uwch mewn dosbarthiadau chweched a cholegau addysg bellach

pdf, 1.14 MB Added 08/11/2018

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais am gyngor yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018. ...Read more
Adroddiad thematig |

Cynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn meysydd dysgu medrau byw yn annibynnol mewn colegau addysg bellach

pdf, 1.15 MB Added 16/06/2017

Mae’r adroddiad yn archwilio’r trefniadau ar gyfer mesur cynnydd dysgwyr ag anawsterau ac anableddau dysgu ar raglenni dysgu arbenigol mewn colegau addysg bellach (AB). ...Read more
Arfer Effeithiol |

Coleg wedi’i alluogi’n ddigidol

Mae gan Goleg Cambria ymrwymiad cryf i ddefnyddio technoleg i ddatblygu cyfleoedd dysgu arloesol, amgylcheddau dysgu hyblyg ac arferion busnes effeithiol. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Coleg Cambria – adeiladu hunaniaeth newydd

Fe wnaeth arweinyddiaeth gadarn a llywodraethu effeithiol helpu i greu hunaniaeth newydd lwyddiannus a chryf ar gyfer Coleg Cambria newydd ei ffurfio. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Bodloni anghenion cyflogwyr â chwricwlwm sy’n canolbwyntio ar fedrau

Mae cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar fedrau a phartneriaeth effeithiol gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr lleol yn helpu dysgwyr trin gwallt a harddwch yng Ngholeg Cambria i gyflawni’r cymwysterau a’r ...Read more
Adroddiad thematig |

Arsylwi addysgu a dysgu yn effeithiol mewn colegau addysgu bellach

pdf, 546.81 KB Added 01/10/2015

Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi i ymateb i gais am gyngor ar ‘arsylwi addysg a dysgu’ yn effeithiol gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. ...Read more