Adroddiad thematig |

Cynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn meysydd dysgu medrau byw yn annibynnol mewn colegau addysg bellach

Share this page

Mae’r adroddiad yn archwilio’r trefniadau ar gyfer mesur cynnydd dysgwyr ag anawsterau ac anableddau dysgu ar raglenni dysgu arbenigol mewn colegau addysg bellach (AB). Mae’n canolbwyntio ar ba mor dda y mae colegau’n nodi anghenion dysgwyr a pha mor dda y mae’r rhaglenni y maent yn eu cyflwyno yn bodloni galluoedd dysgwyr ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer y cyfnod pontio o’r coleg.

Argymhellion

Dylai colegau AB:

 
  • A1 Nodi medrau a galluoedd ehangach dysgwyr yn ystod asesiadau cychwynnol a chynnwys ffocws addas ar gyfathrebu, annibyniaeth, cyflogadwyedd a lles o fewn y rhain
  • A2 Gwneud yn siŵr bod cynlluniau dysgu unigol yn adlewyrchu deilliannau asesiadau cychwynnol a’u bod yn cynnwys targedau penodol a mesuradwy sy’n cysylltu’n glir â nodau tymor hir a chyrchfannau tebygol dysgwyr
  • A3 Cynllunio rhaglenni dysgu medrau byw yn annibynnol sydd:
    •  yn ddigon heriol
    • yn cynnwys cyfleoedd i ddatblygu medrau sy’n berthnasol i anghenion a chyrchfannau tebygol dysgwyr pan fyddant yn gadael y coleg
    • yn cynnwys cydbwysedd priodol rhwng cwblhau cymwysterau a gweithgareddau dysgu
  • A4 Rhoi systemau dibynadwy ar waith i olrhain cynnydd yr holl ddysgwyr mewn perthynas â’u mannau cychwyn unigol
  • A5 Olrhain cyrchfannau dysgwyr pan fyddant yn gadael y maes dysgu neu’r coleg yn gywir

Dylai awdurdodau lleol:

  • A6 Rhoi gwybodaeth berthnasol i golegau am anghenion dysgwyr pan fyddant yn dechrau yn y coleg
  • A7 Datblygu ystod ehangach o bartneriaethau gyda’r sector ôl-16 a’r sector gwirfoddol i ddatblygu a gwella llwybrau dilyniant yn yr ardal leol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 Adolygu’r broses o gasglu gwybodaeth am ddeilliannau dysgwyr ar raglenni medrau byw yn annibynnol i sicrhau bod hyn yn rhoi darlun cywir o gyrchfannau dysgwyr ledled Cymru

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol