Adroddiad thematig |

Cyrsiau safon uwch mewn dosbarthiadau chweched a cholegau addysg bellach

Share this page

Adroddiad thematig | 08/11/2018

pdf, 1.14 MB Added 08/11/2018

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais am gyngor yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018. Mae’n adrodd ar safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth mewn cyrsiau Lefelau Uwch TAG (Safon Uwch) mewn dosbarthiadau chwech ysgolion a cholegau addysg bellach. Mae’n ystyried amrywiaeth o ffactorau, fel safonau mewn Safon Uwch a sut caiff y rhain eu mesur, ansawdd yr addysgu a’r asesu, natur y cwricwlwm Safon Uwch a gynigir ac arweinyddiaeth strategol, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth.

Agymhellion

Dylai ysgolion a cholegau:

  • A1 Wella deilliannau Safon Uwch, yn enwedig ar lefel UG, ac yn enwedig deilliannau bechgyn
  • A2 Gwella’r cyngor a’r arweiniad a roddir i ddysgwyr trwy:
    • a. ystyried lefelau cyrhaeddiad addysgol dysgwyr mewn TGAU yn ofalus wrth roi cyngor ac arweiniad
    • b. rhoi gwybodaeth gywir a chyfoes i ddysgwyr am ystod lawn y cyfleoedd chweched dosbarth, addysg bellach a phrentisiaeth sy’n agored iddynt
    • c. rhoi cyngor ar y cyfuniadau gorau o bynciau iddynt
    • ch.  datblygu polisi clir ar ddilyniant o UG i Safon Uwch
    • d. ystyried yn ofalus nifer y cymwysterau a ddilynir gan bob dysgwr, gan ystyried llwybr dilyniant tebygol pob dysgwr
  • A3     Gwella medrau dysgu annibynnol dysgwyr cyn-16 er mwyn eu paratoi ar gyfer astudiaethau Safon Uwch
  • A4     Gweithio gyda’i gilydd i wella cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig ag addysgu Safon Uwch
  • A5     Rhoi sylw priodol i ddeilliannau a darpariaeth mewn Safon Uwch ac UG mewn prosesau hunanarfarnu a chynllunio gwelliant

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A6     Hwyluso rhwydweithiau dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig â Safon Uwch ar draws ysgolion a cholegau
  • A7    Helpu ysgolion i arfarnu effeithiolrwydd eu darpariaeth Safon Uwch

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8     Fonitro llwyddiant y setiau data mesurau cyson newydd ar draws ysgolion a cholegau
  • A9     Sicrhau bod newidiadau i’r cwricwlwm a chymwysterau yn rhoi parhad a dilyniant  
  • A10  Adolygu’r fformiwla cyllid ar gyfer cyrsiau Safon Uwch mewn ysgolion a cholegau, a’i gymhwyso ar draws awdurdodau, gyda’r nod i ddileu canlyniadau anfwriadol, fel annog dysgwyr nad ydynt yn addas ar gyfer astudio cyrsiau Safon Uwch i wneud hynny  
  • A11  Datblygu ffordd o gyfleu i ddysgwyr a’u rhieni wybodaeth glir am gyrhaeddiad a darpariaeth Safon Uwch mewn canolfannau unigol

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol