Fel arfer, yn rhaglen yr UCD, mae dau grŵp o chwe disgybl sy’n elwa ar sesiynau ymyrraeth dwy awr bob wythnos dros gyfnod o ugain wythnos. Ar hyn o bryd, mae un grŵp yn cynnwys plant y cyfnod sylfaen a dechrau cyfnod allweddol 2, a’r grŵp arall yn cynnwys disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6. Cynhelir sesiynau mewn ystafell ar wahân sy’n darparu ar gyfer gweithgareddau fel dysgu ar sail fideo a defnyddio pypedau i fodelu a chwarae rôl medrau cymdeithasol ac emosiynol, yn cynnwys rheoli ‘teimladau mawr’, cymryd tro, rhannu, datrys problemau ac archwilio cyfeillgarwch. Mae pob sesiwn yn cynnig cyfleoedd strwythuredig i ddisgyblion ymarfer y medrau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn cynnwys amser byrbryd iach.
Yn ystod pob sesiwn, mae disgyblion yn ennill ‘marblis’ yn wobrau am ymgysylltu cadarnhaol, sy’n cyfrannu tuag at gymhelliant gweithgaredd cymunedol wythnosol, fel chwarae yn y parc lleol neu ymweld â chaffi neu siop leol. Wedyn, caiff y medrau cymdeithasol ac emosiynol y mae disgyblion yn eu datblygu yn ystod y rhaglen eu hymarfer ymhellach mewn cyd-destunau go iawn yn y gymuned.
Fel arfer, mae disgyblion yn cael tasgau gwaith cartref syml sy’n rhoi cyfle i rieni gymryd rhan yng ngweithgareddau’r rhaglen hefyd. Hefyd, mae’r UCD yn cynnig cymorth i rieni i helpu eu dealltwriaeth o’r modd y mae ymgysylltu cydweithredol â’r ymyrraeth yn cynyddu ei llwyddiant. Caiff gweithgareddau yn yr ysgol ac yn y cartref eu cynllunio i fod yn fywiog, yn rhyngweithiol ac yn hwyl.
Ar ddiwedd rhaglen 20 wythnos yr UCD, cynhelir seremoni raddio ddathliadol lle caiff rhieni, gofalwyr, ysgolion partner ac asiantaethau partner eu gwahodd i rannu llwyddiant ‘graddedigion’ y rhaglen.
Yn ystod y cyfnod dysgu o bell yng nghyfnod clo cenedlaethol cyntaf y pandemig, defnyddiodd arweinydd UCD y rhaglen ddull creadigol, hyblyg ac ymatebol i barhau i ddiwallu anghenion ymddygiadol, emosiynol ac anghenion dysgu penodol disgyblion ar ôl y rhaglen. Er enghraifft, gwnaeth staff fideos byr gan ddefnyddio pypedau i ganolbwyntio ar faterion a dilemâu penodol y gallai disgyblion eu hwynebu yn ystod y cyfnod hwn. Atgoffodd y pypedau’r disgyblion am yr ‘awgrymiadau gorau’, offer, technegau a’r medrau yr oeddent wedi eu dysgu tra’n mynychu’r UCD i fynd i’r afael â’r materion hyn. Roedd gweithgareddau’n cynnwys cyfle i archwilio emosiynau, ac aeth staff i’r afael â’r rhain wedyn fel rhan o alwadau lles wythnosol bugeiliol yr UCD i ddisgyblion a’u teuluoedd. Anfonodd staff fideos ddwy neu deirgwaith yr wythnos.
Dywed arweinwyr yn yr UCD fod parhau â’r rhaglen hon yn ystod y cyfnod clo yn hanfodol i gynnal a gwella ymddygiadau’r disgyblion hyn. Pan gafodd yr UCD ei hailagor yn llawn, dathlodd pob grŵp y cyfle i gyfarfod gyda’i gilydd cyn parhau â’r rhaglen wyneb yn wyneb arferol, ac ymgysylltodd bron pob un o’r disgyblion yn dda mewn cyfnod byr.