Adroddiad thematig |

Pwyllgorau rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion

Share this page

Adroddiad thematig | 13/02/2020

pdf, 735.95 KB Added 13/02/2020

Mae canfyddiadau’r adroddiad wedi eu seilio ar amrywiaeth o dystiolaeth arolygu. Bu arolygwyr yn cynnal cyfweliadau dros y ffôn gyda chadeiryddion ac aelodau pwyllgorau rheoli hefyd, yn ogystal â gydag athrawon sydd â gofal am yr UCDau, i archwilio arfer lwyddiannus.

Argymhellion

 

Dylai pwyllgorau rheoli:
  • Ddefnyddio’r Llawlyfr ar gyfer Pwyllgorau Rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion i wella eu gwaith
  • Gweithio’n agos mewn partneriaeth â’u hawdurdod lleol, eu consortiwm rhanbarthol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer eu UCD
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
  • Ddarparu rhaglen flynyddol o gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad ar gyfer aelodau o bwyllgorau rheoli UCDau
  • Sicrhau bod swyddogion awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn deall rôl a swyddogaeth eu UCDau yn llawn er mwyn gwella eu cydweithio â phwyllgorau rheoli
Dylai Llywodraeth Cymru:
  • Godi ymwybyddiaeth ymhlith yr holl bwyllgorau rheoli am y Llawlyfr ar gyfer Pwyllgorau Rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol