Adroddiad thematig |

Addysg Heblaw yn yr Ysgol: arolwg arfer dda - Mehefin 2015

Share this page

Adroddiad thematig | 01/06/2015

pdf, 742.46 KB Added 01/06/2015

Cyhoeddwyd yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn y llythyr cylch gwaith Gweinidogol i Estyn ar gyfer 2014-2015. Dyma yw nodau’r adroddiad: nodi enghreifftiau o arfer dda mewn strategaethau ymyrraeth gynnar o ysgolion cynradd ac uwchradd, unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), ac awdurdodau lleol, sy’n ceisio lleihau nifer y disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol nodi enghreifftiau o arfer dda mewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol mewn perthynas â’r canlynol cwricwla sy’n bodloni anghenion pob disgybl, strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli ymddygiad/dulliau ar gyfer lleihau’r amser sy’n cael ei dreulio mewn addysg heblaw yn yr ysgol, a strategaethau effeithiol ar gyfer ailintegreiddio.

Argymhellion

Dylai awdurdodau lleol, ysgolion ac UCDau:

  • gael strategaeth y cytunwyd arni’n lleol i gefnogi’r holl ddisgyblion sy’n agored i niwed fel eu bod yn aros mewn addysg amser llawn
  • nodi disgyblion sydd mewn perygl o ymddieithrio yn gynnar a rhoi ymyriadau priodol ac amserol ar waith
  • cydweithio i gynyddu ystod yr opsiynau a’r profiadau dysgu sydd ar gael i ddisgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol
     

Dylai awdurdodau lleol:

  • sicrhau bod gan yr holl randdeiliaid ddealltwriaeth glir o rôl UCDau a mathau eraill o ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol mewn continwwm o ddarpariaeth, a bod y darpariaethau hyn yn cynnwys meini prawf mynediad ac ymadael clir
  • penodi staff UCD sydd â phrofiad ac arbenigedd priodol mewn arweinyddiaeth, addysgu a dysgu yn ogystal â rheoli ymddygiad
  • sicrhau bod pob un o staff UCDau yn cael yr un cyfleoedd hyfforddi a datblygu â staff mewn ysgolion prif ffrwd
  • gweithio gyda chonsortia rhanbarthol i ddarparu cymorth a her gadarn i reolwyr a phwyllgorau rheoli UCD
     

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddarparu arweiniad fframwaith ar rôl UCDau fel rhan o gontinwwm o ddarpariaeth
  • ystyried cyflwyno cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer athrawon sydd â gofal am UCDau
  • sicrhau bod staff UCDau yn elwa ar strategaethau cenedlaethol i wella ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg