Arfer Effeithiol |

Cefnogi anghenion disgyblion o’r cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Share this page

Nifer y disgyblion
100
Dyddiad arolygiad
 
 

Cyd-destun a chefndir

Mae Gwasanaeth Addysg Ethnig Lleiafrifol Gwent (GEMS) yn wasanaeth rhanbarthol a gynhelir gan Gyngor Dinas Casnewydd, sy’n darparu cymorth ar gyfer disgyblion Ethnig Lleiafrifol sy’n siarad Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SSIY) a disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr.  Mae mwyafrif y disgyblion a gynorthwyir yng Nghasnewydd, ac mae gan GEMS gytundebau lefel gwasanaeth ag awdurdodau Caerffili, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Thorfaen.  Mae GEMS yn cynnwys athrawon, y mae rhai ohonynt yn ddwyieithog, a chynorthwywyr addysgu dwyieithog.  Mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i GEMS ddiwallu anghenion newidiol y boblogaeth SSIE ar draws y rhanbarth.  Ariennir GEMS yn gyfan gwbl gan grantiau blynyddol gan Lywodraeth Cymru.

Trosolwg

Un o nodweddion sylweddol GEMS yw’r arweinyddiaeth gref sy’n amlwg dros gyfnod, ynghyd â chynllunio ac ailstrwythuro, pan fydd angen, i ddiwallu anghenion y disgyblion ar draws y rhanbarth.  Mae Pennaeth GEMS yn sicrhau bod gwasanaeth effeithlon a syml yn cael ei ddarparu.  Mae hyn yn cwmpasu neilltuo digon o staff cymorth i gynorthwyo disgyblion yn uniongyrchol mewn ysgolion tra’n darparu hyfforddiant i staff ysgolion hefyd.  Mae amserlenni staff yn adlewyrchu’r angen i gael cymorth GEMS mewn ysgolion ac yn adlewyrchu’n gyson y boblogaeth SSIE sy’n newid yn barhaus yng Nghasnewydd, yn benodol.  Mae Pennaeth GEMS yn adolygu cymorth i ysgolion yn rheolaidd, ac ystyrir amrywiaeth o ddangosyddion wrth benderfynu ar becynnau cymorth i ysgolion.  Mae’r dull presennol wedi cael ei gynnal dros gyfnod o sawl blwyddyn a bu’n llwyddiannus o ran cyflwyno a chynnal darpariaeth SSIE ar draws Casnewydd a’r rhanbarth ehangach.  Mae ariannu a staffio GEMS yn heriol, gan fod y gwasanaeth yn dibynnu ar grantiau blynyddol gan Lywodraeth Cymru.  Mae Casnewydd, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth, yn rheoli’r her hon yn dda i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i ddiwallu anghenion disgyblion.

Mae’r gwasanaeth a ddarperir gan GEMS yn rhoi’r cyfle gorau i’r holl ddisgyblion a gynorthwyir elwa ar y cwricwlwm trwy gydweithio a phartneriaeth ag ysgolion.  Mae’r deilliannau ar gyfer disgyblion SSIE yng Nghasnewydd yn rhagorol, ac mae GEMS yn darparu cymorth o ansawdd uchel ar draws nifer fawr o ysgolion cynradd ac uwchradd, ac un ysgol feithrin.  Gall ysgolion gyflwyno atgyfeiriad i ddisgybl elwa ar y gwasanaeth yn dilyn asesiad cychwynnol.  Wedyn, caiff pecynnau cymorth teilwredig eu llunio ar gyfer ysgolion a dysgwyr unigol, fel y bo’n briodol.  Mae staff GEMS yn gweithio gyda disgyblion yn y dosbarth, mewn sesiynau tynnu allan o wersi â ffocws, mewn partneriaeth â staff prif ffrwd, mewn grwpiau bach neu gyda disgyblion unigol.  Hefyd, gall y gwasanaeth ddarparu cymorth iaith y cartref ar gyfer disgyblion sy’n bwriadu ennill cymhwyster yn eu hiaith eu hunain.  Mae GEMS yn nodi ymgeiswyr trwy gysylltu ag ysgolion, ac yn darparu cymorth iaith teilwredig trwy gynnal yr arholiadau llafar gyda disgyblion a chefnogi elfen darllen ac ysgrifennu’r cymhwyster.  Ar gyfer hwyrddyfodiaid yng Nghyfnod Allweddol 4, efallai mai hwn fydd yr unig gymhwyster y maent yn ei ennill cyn gadael yr ysgol.  Yn aml, mae cymwysterau iaith y cartref yn hanfodol ar gyfer disgyblion y mae angen iddynt ennill pwyntiau er mwyn cael eu derbyn mewn coleg neu brifysgol.

Mae Cofnod Caffael Iaith GEMS yn monitro cyrhaeddiad iaith disgyblion.  Caiff cynnydd ei olrhain, ac fe gaiff cymorth ei addasu yn sgil diweddaru’r Cofnod Caffael Iaith deirgwaith y flwyddyn.  Caiff cyrhaeddiad iaith disgyblion a gynorthwyir ei olrhain gan ddefnyddio taflen monitro cynnydd, ac mae’r uwch dîm rheoli yn dadansoddi’r data ar ddiwedd pob tymor.  Gellir nodi tangyflawni, a rhoddir cymorth ar waith, os bydd angen.  Mae hyn yn bosibl o ganlyniad i nifer y staff dwyieithog a’r athrawon SSIE yn y gwasanaeth, a thrwy recriwtio staff yn ofalus.  Mae GEMS wedi recriwtio staff o ystod amrywiol o gefndiroedd erioed, gan roi blaenoriaeth i hyfforddiant a mentora i sicrhau bod gan staff y medrau cywir i gyflwyno cymorth o ansawdd uchel mewn ysgolion.  Mae aelodau o’r gymuned Roma wedi cael eu cyflogi gan GEMS ac mae hyn wedi cyfoethogi’r profiadau dysgu ar gyfer nifer fawr y disgyblion Roma mewn ysgolion ar draws Casnewydd.  Hefyd, mae ysgolion wedi cyflogi staff sydd wedi cael profiad o weithio gyda GEMS yn y gorffennol, ac wedi cael budd yn sgil datblygiad proffesiynol GEMS.  Gall GEMS wasanaethu’r gymuned leol, a diwallu anghenion teuluoedd trwy recriwtio staff o grwpiau ethnig lleiafrifol, a staff sy’n siarad ieithoedd y gymuned.

Un o gryfderau eraill y gwasanaeth yw’r berthynas â rhieni a gofalwyr.  Mae hyn yn hanfodol wrth greu dealltwriaeth gadarnhaol o addysg ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed, ac yn rhoi cyfle i rieni gyfathrebu ag ysgol eu plentyn.  Trwy ddefnyddio holiaduron, amlygwyd bod GEMS yn eithriadol o bwysig i rieni a gofalwyr, ac mae’r gwasanaeth wedi defnyddio adborth gan rieni i lywio ailstrwythuro’r gwasanaeth.  Gall ysgolion ddefnyddio’r gwasanaeth i gynorthwyo rhieni yn ystod nosweithiau rhieni, cyfarfodydd presenoldeb a materion ynghylch ymddygiad.  Mae staff GEMS yn brofiadol mewn delio â chymunedau sy’n anodd eu cyrraedd a theuluoedd ynysig, a gall leoli staff yn briodol yn yr ardaloedd hyn.  Mae cydlynydd ceiswyr lloches GEMS yn cynorthwyo teuluoedd sydd newydd gyrraedd yn benodol â derbyniadau i ysgolion, prynu gwisgoedd ysgol a chyfeirio teuluoedd at gymorth priodol yn y gymuned.  Mae cysylltu â phartneriaid eraill, er enghraifft ym maes iechyd a thai, yn sicrhau y gellir mynd i’r afael ag anghenion disgyblion a’u teuluoedd, sydd weithiau’n gymhleth.  Hefyd, mae defnyddio cymorth iaith cydweithwyr yn galluogi trosglwyddo esmwyth i leoliadau ysgol, a bywyd yn Ne Ddwyrain Cymru yn fwy cyffredinol.

Er mai gwasanaeth cymorth dysgu yw GEMS yn bennaf, mae’n cefnogi lles disgyblion hefyd.  Mae GEMS yn gweithio’n agos gyda nifer o asiantaethau, gan gynnwys yr heddlu, i fonitro newidiadau mewn cymunedau, fel digwyddiadau cynyddol o ganlyniad i hil neu fath arall o wahaniaethu.  Mae GEMS wedi gweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth â Dangos Cerdyn Coch i Hiliaeth ers blynyddoedd lawer i hyrwyddo cydlyniad cymunedol a mynd i’r afael â phroblemau.  Mae prosiect ‘Gweld y byd trwy ein llygaid ni’ (‘See the world though our eyes’) wedi helpu hyrwyddo cynhwysiant trwy gyflwyno disgyblion i nodweddion gwahanol ddiwylliannau, gan gynnwys Teithwyr Roma.  Mae hyn wedi helpu meithrin cysylltiadau da o fewn cymunedau, ac wedi gwella lles disgyblion o wahanol gefndiroedd ethnig.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion a gynorthwyir yn gwneud y cynnydd disgwyliedig trwy’r Cofnod Caffael Iaith, gan gyflawni’r disgrifwyr iaith a ragwelwyd, ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn caffael iaith ddigonol i elwa ar y cwricwlwm ar ryw lefel.  Mae’r gwasanaeth yn helpu disgyblion i ddatblygu eu medrau iaith yn gyflym, trwy gymorth gan gynorthwywyr addysgu dwyieithog, er enghraifft.  Mae hyn yn galluogi disgyblion i gyfranogi’n well ym mywyd yr ysgol ar lefel academaidd a chymdeithasol, ac mae’n ymestyn eu lles yn sylweddol.  Yn ychwanegol, mae’r gwasanaeth yn cynorthwyo rhieni i gyfathrebu’n ystyrlon ag ysgol eu plentyn a chymryd rhan yn ei addysg.  

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd sydd wedi cael cymorth gan GEMS yn gwneud cynnydd rhagorol.  Mae disgyblion mewn ysgolion uwchradd sydd wedi cael cymorth gan GEMS yn gwneud cynnydd yn unol â’u cyfoedion.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd

Ysgrifennir yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith at Estyn ar gyfer 2022-2023. Hwn yw’r cyntaf o ddau adroddiad, o leiaf. ...Read more
Adroddiad thematig |

Tegwch profiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY)

Ysgrifennir yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith at Estyn ar gyfer 2022/23. ...Read more
Adroddiad thematig |

Addysg Heblaw yn yr Ysgol: arolwg arfer dda - Mehefin 2015

pdf, 742.46 KB Added 01/06/2015

Cyhoeddwyd yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn y llythyr cylch gwaith Gweinidogol i Estyn ar gyfer 2014-2015. ...Read more
Adroddiad thematig |

Effaith athrawon ymgynghorol ar leoliadau nas cynhelir a ariennir - Mai 2015

pdf, 425.27 KB Added 01/05/2015

Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2014-2015. ...Read more