Adroddiad thematig |

Tegwch profiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY)

Share this page

Ysgrifennir yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith at Estyn ar gyfer 2022/23. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o brofiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n mynychu darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) ledled Cymru. Mae’n gwerthuso tegwch arlwy’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n cael eu lleoli mewn darpariaethau addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys eu cyfle i fanteisio ar arlwy cwricwlwm amser llawn neu ran-amser. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn gwerthuso a gwella ansawdd ac effaith y ddarpariaeth, ac yn adrodd ar y cyfnod pontio rhwng darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ac ysgolion neu ddarpariaeth ôl-16. Rydym yn amlygu enghreifftiau o arfer dda mewn awdurdodau lleol lle mae ansawdd arlwy’r cwricwlwm yn cefnogi anghenion y disgyblion yn llwyddiannus, ac yn cefnogi eu dychweliad i addysg brif ffrwd, addysg bellach, hyfforddiant, neu gyflogaeth, yn effeithiol.

Dylai UCDau ac ysgolion prif ffrwd:

  1. Rannu arfer â’i gilydd a gweithio gydag awdurdodau lleol, disgyblion, a rhieni i gryfhau cyfleoedd i ddisgyblion ddychwelyd i addysg brif ffrwd
  2. Monitro presenoldeb disgyblion yn agos i sicrhau eu bod yn elwa ar eu darpariaeth lawn ac, yn benodol, i ddiogelu disgyblion lle maent yn cael addysg ran-amser mewn gwahanol ddarparwr

Dylai awdurdodau lleol a’u gwasanaethau gwella ysgolion:

  1. Gynorthwyo mwy o ddisgyblion i ddychwelyd i ysgol brif ffrwd lle bo’n briodol trwy:
  • gryfhau cymorth dwys tymor byr mewn darpariaeth AHY
  • sicrhau bod penderfyniadau am leoliadau’n cael eu gwneud yn brydlon ac yn nodi hyd cytunedig, rolau a chyfrifoldebau clir a dyddiad adolygu
  1. Sicrhau darpariaeth cwricwlwm mewn UCDau sy’n diwallu anghenion pob un o’r disgyblion, gan weithio gyda’r pwyllgor rheoli a’r athro sydd â gofal.
  2. Sicrhau darpariaeth cwricwlwm mewn darparwyr AHY heblaw UCDau.
  3. Cryfhau’r prosesau sicrhau ansawdd a monitro i sicrhau bod arlwy’r cwricwlwm yn cael ei gyflwyno’n effeithiol mewn darparwyr AHY.
  4. Herio a monitro presenoldeb disgyblion yn drylwyr ar draws darparwyr AHY, gan gynnwys defnydd priodol o amserlenni rhan-amser a rhaglenni cymorth bugeiliol.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  1. Ddiweddaru a sicrhau bod y Fframwaith ar gyfer Gweithredu AHY yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys yr holl ganllawiau atodol perthnasol ar AHY, i adlewyrchu argymhellion yr adroddiad hwn.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol