Arfer Effeithiol |

Annog disgyblion i gyfranogi yn eu cymuned a’r byd ehangach

Share this page

Nifer y disgyblion
870
Ystod oedran
11-18
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn ysgol gymunedol, benodedig ddwyieithog, cymysg i ddisgyblion 11-18 oed ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol  Sir Gaerfyrddin.  Mae wedi ei lleoli yng Nghroesyceiliog ar gyrion dwyreiniol Tref Caerfyrddin.  Mae ynddi 870 gyda 182 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth.  Mae’r ysgol yn gwasanaethu disgyblion o dref Caerfyrddin a phentrefi cyfagos yn ogystal â thalgylch eang ehangach.   Mae gan 3.4% o ddisgyblion yr ysgol yr hawl i brydau ysgol am ddim. Daw llawer (tua 79%) o ddisgyblion o deuluoedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gartref, ond mae’r holl ddisgyblion yn medru’r Gymraeg i safon iaith gyntaf. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn ei chyfraniad tuag at y gymuned leol ac i weithgareddau ar lefel Sirol a Chenedlaethol gan bod hyn yn sicrhau ein bod yn datblygu sgiliau cymdeithasol y disgyblion yn ein gofal.  Yn seiliedig ar gysylltiadau pontio cadarn ac effeithiol daw’r disgyblion trwy ddrysau’r ysgol ym mlwyddyn 7 yn llawn ymwybodol o’r etifeddiaeth gyfoethog sydd yno i’w gynnal trwy lu o weithgareddau cerddorol, chwaraeon, sioeau,  gweithgareddau  a chlybiau amrywiol eraill.  Arwyddair yr ysgol yw ‘Heb ddysg - heb ddeall’, ac fe ddaw hynny o’r gred nad ar sail canlyniadau academaidd yn unig y daw unigolion i ddeall eu cyfraniad yn y Gymru fodern ond ar sail eu dealltwriaeth ddiwylliannol o’r gwerth o fod yn Gymro neu’n Gymraes.  Trwy hyn y tyf unigolion yn gyfranogwyr llawn yn eu cymdeithas leol a chenedlaethol a dyma’r math o ddisgybl y mae ysgol Bro Myrddin yn dymuno ei feithrin. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Rhoddir cryn bwyslais yng ngwaith ABCh yr ysgol ar ddatblygu’r dinesydd cyflawn yng nghyd-destun academaidd a chymdeithasol a daw hynny yn amlwg wrth edrych ar ddata cyfranogiad disgyblion mewn gweithgareddau amrywiol.  Mae’r ysgol wedi datblygu llais y disgybl trwy amrywiaeth o bwyllgorau - y cyngor ysgol, cyngor blwyddyn, cyngor chwaraeon, pwyllgor dyngarol, pwyllgor gwasanaeth, pwyllgor Eco, pwyllgor y chweched a phwyllgor Prosiect4Cymraeg.  O ganlyniad mae medrau’r disgyblion yn cael eu datblygu a’u cyfraniad i fywyd ysgol yn cael ei feithrin.  Esiampl ardderchog yw natur y gwasanaethau boreol ysgol gyfan sy’n cynnwys cyfraniadau hyderus gan ddisgyblion boed hynny yn gyflwyniadau neu’n eitemau cerddorol. 

Mae gan yr ysgol gysylltiadau buddiol iawn gyda’r gymuned leol ac mae’r disgyblion yn gwneud cyfraniad hynod werthfawr i’r cymunedau hynny. 

Anogir disgyblion i gystadlu’n lleol a chenedlaethol mewn amrywiaeth o gystadlaethau megis eisteddfodau a chystadlaethau chwaraeon a dethlir eu llwyddiannau’n gyhoeddus yn ein gwasanaethau boreol. 

Mae cyfraniad y disgyblion at weithgareddau elusennol yn fawr boed hynny’n ymgyrchoedd codi arian neu’n waith cymunedol.  Mae’r pwyllgor dyngarol yn gryf, effeithiol a gweithgar ac yn casglu tua £6,000 y flwyddyn i elusennau amrywiol.  Mae’r pwyllgor Eco wedi gwneud cyfraniad mawr i amgylchedd yr ysgol ac wedi elwa o nifer o brosiectau yn ystod y flwyddyn diwethaf.  Trwy grant Erasmus+ mae disgyblion wedi cydweithio gydag ysgolion ar draws Ewrop ac wedi teithio i Denmarc, y Ffindir a Chyprus yn ddiweddar. 

Mae gennym lu o weithgareddau allgyrsiol amrywiol at ddant pawb, o’r corau i’r clwb drama i’r clybiau chwaraeon a’r clybiau megis y ‘gwarchodli odli’ a’r Urdd.  Anogir disgyblion i fynychu’r clybiau er mwyn cymdeithasu a datblygu eu sgiliau.  Mae’r holl brofiadau, yn sicr, yn fodd o sicrhau bod gweledigaeth yr ysgol o ddatblygu’r dinesydd cyflawn yn cael ei wireddu.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ar safonau dysgwyr?

Mae holiaduron disgyblion a rhieni yn dangos eu bod yn hapus gyda’r holl gyfleoedd a gynigir gan yr ysgol.  Sicrha yr amrywiol brofiadau bod pob plentyn yn cael cyfleoedd o fewn yr ysgol a’u bod hefyd yn cael eu gwerthfawrogi.   Mae’r ffaith bod yr ysgol yn hyrwyddo ac annog llais y disgybl mewn modd cadarnhaol  wedi bod yn allweddol o ran cynyddu hunanwerth, hunan-barch a sgiliau cyfathrebu y disgyblion.  Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn gwneud cynnydd arwyddocaol yn eu medrau cymdeithasol oherwydd yr holl waith. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Ar lwyfannau lleol, sirol a chenedlaethol mae enw da yr ysgol yn destun canmoliaeth boed hynny ym maes cerddoriaeth, gwaith llenyddol, perfformiadau neu chwaraeon.   Mae’r arfer dda yn cael ei rannu gyda’r holl rhyngddeiliaid trwy’r wasg leol, trwy wefannau cymdeithasol megis Twitter, Facebook a gwefan yr ysgol. 

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Hyrwyddo diwylliant Cymreig cryf

Ar ôl y cyfnodau clo, sylwodd Ysgol Bro Myrddin ar ddirywiad mewn defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg. ...Read more
Adroddiad thematig |

Addysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Cytunodd Estyn â Llywodraeth Cymru i gynnal arolwg cyflwr y genedl er mwyn ymateb i ddau argymhelliad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth ...Read more
Adroddiad thematig |

Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf

pdf, 1.22 MB Added 17/06/2020

Nod yr arolygiad pynciol hwn yw rhoi trosolwg i Lywodraeth Cymru am safonau, agweddau dysgwyr, darpariaeth ac arweinyddiaeth o ran y Gymraeg fel pwnc Safon Uwch Iaith Gyntaf. ...Read more
Adroddiad thematig |

Partneriaethau â chyflogwyr mewn ysgolion uwchradd ac arbennig

pdf, 1.08 MB Added 12/02/2020

Mae’r adroddiad yn archwilio’r amrywiaeth o bartneriaethau a chysylltiadau sydd gan ysgolion uwchradd ac arbennig ledled Cymru â chyflogwyr. ...Read more
Adroddiad thematig |

Y continwwm dysgu proffesiynol: mentora mewn addysg gychwynnol athrawon

pdf, 3.16 MB Added 15/10/2018

Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, darparwyr addysg gychwynnol athrawon, penaethiaid a staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. ...Read more
Adroddiad thematig |

Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 4 - Hydref 2013

pdf, 439.42 KB Added 01/10/2013

Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yng nghylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2012-2013. ...Read more
Adroddiad thematig |

Rhifedd ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 19 mlwydd oed - Gorffennaf 2011

pdf, 778.04 KB Added 01/07/2011

Mewn ysgolion lle mae’r ddarpariaeth ar gyfer rhifedd yn dda, ceir arweinyddiaeth gref. ...Read more