Adroddiad thematig |

Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf

Share this page

Adroddiad thematig | 17/06/2020

pdf, 1.22 MB Added 17/06/2020

Nod yr arolygiad pynciol hwn yw rhoi trosolwg i Lywodraeth Cymru am safonau, agweddau dysgwyr, darpariaeth ac arweinyddiaeth o ran y Gymraeg fel pwnc Safon Uwch Iaith Gyntaf. Mae’r adroddiad yn gwerthuso pa mor dda yw ansawdd addysgu ac asesu, cynllunio cwricwlaidd, ynghyd â’r profiadau dysgu ffurfiol ac anffurfiol sydd yn cyfrannu at godi safonau a gwella profiadau dysgwyr yng nghyfnod allweddol 5.

Argymhellion

Dylai ysgolion a cholegau addysg bellach:

  • A1 Gynllunio’n strategol a marchnata Cymraeg Safon Uwch Iaith Gyntaf er mwyn cynyddu niferoedd y dysgwyr sy’n dewis y pwnc
  • A2 Datblygu dulliau effeithiol o gyflwyno’r testunau gosod a synoptig i ddysgwyr mewn dulliau cyfoes a gwreiddiol
  • A3 Cynllunio’n fwriadus i gynyddu awydd, dygnwch a hyder dysgwyr ysgolion uwchradd i ddefnyddio’r Gymraeg a chydweithio gyda phartneriaid allanol i hyrwyddo hyn

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A4 Gynnal rhwydweithiau er mwyn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol a rhannu’r arferion gorau o ran addysgu Safon Uwch Iaith Gyntaf Cymraeg
  • A5 Olrhain fesul ysgol y cyfrannau o ddysgwyr cyfnod allweddol 4 a 5 sy’n dilyn cyrsiau drwy’r Gymraeg a gosod targedau i gynyddu hyn yn ôl amcanion Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A6 Ddarparu adnodd marchnata cenedlaethol i hyrwyddo Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf a medrau cyflogadwyedd y pwnc
  • A7 Cydweithio gyda Cymwysterau Cymru i sicrhau bod cymwysterau TGAU Cymraeg newydd i gefnogi’r cwricwlwm arfaethedig yn cynnig testunau mwy cyfredol a pherthnasol i ddysgwyr

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol