barhau i ganolbwyntio ar godi safonau ysgrifennu annibynnol ac estynedig disgyblion, gan roi sylw agos i gynnwys, mynegiant a chywirdeb;
parhau i wella gallu disgyblion i ddarllen er gwybodaeth a defnyddio medrau darllen lefel uwch;
mynd i’r afael â thanberfformio gan ddisgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim mewn Saesneg, gan gynnwys ar gyfer disgyblion mwy abl, trwy dargedu a gweddu cymorth i’w hanghenion dysgu unigol;
darparu gwaith heriol mewn Saesneg i ymestyn pob disgybl, yn enwedig y rhai mwy abl;
cytuno sut i addysgu sillafu, atalnodi a gramadeg a darparu cysondeb mewn dulliau, fel addysgu rheolau a strategaethau sillafu;
gwella arferion asesu ar gyfer dysgu a marcio gwaith disgyblion;
sicrhau cydbwysedd gwell rhwng deunydd llenyddol a deunydd anllenyddol ac ymdrin â phob un o’r saith genre ysgrifennu;
gweithio gydag ysgolion eraill i rannu arferion safoni a chymedroli effeithiol; a
rhannu mwy o wybodaeth i gynorthwyo cyfnod pontio disgyblion i’r ysgol uwchradd.
Yn ychwanegol, dylai ysgolion uwchradd:
wella addysgu ysgrifennu fel proses trwy annog disgyblion i gynllunio, adolygu, golygu a gwella eu gwaith eu hunain; a
gwneud mwy o ddefnydd o lafaredd cyn darllen ac ysgrifennu, er mwyn helpu disgyblion i ddatblygu ac ymestyn eu dealltwriaeth a gwella ansawdd eu gwaith.
Dylai Llywodraeth Cymru:
wella dibynadwyedd a dilysrwydd asesiadau athrawon trwy adolygu meini prawf asesu a chyflwyno safoni allanol yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3.