Meithrin annibyniaeth a chwilfrydedd drwy ddysgu sy’n seiliedig ar ymholi
Mae’r cwricwlwm wedi’i gynllunio’n ofalus. Mae’n canolbwyntio’n gryf ar ddatblygu medrau disgyblion ac yn rhoi pwyslais mawr ar feithrin chwilfrydedd a chariad at ddysgu ymhlith pob disgybl. Mae gweithgareddau dysgu yn darparu amryw o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu medrau ehangach fel datrys problemau, gwydnwch a deallusrwydd emosiynol, gan sicrhau eu bod yn cael eu grymuso’n bersonol. Drwy gynnwys disgyblion mewn profiadau dysgu ystyrlon sy’n seiliedig ar ymholi, mae’r cwricwlwm yn meithrin annibyniaeth, meddwl yn feirniadol a’r gallu i addasu. Mae’r dull hwn yn rhoi’r medrau sydd eu hangen ar ddisgyblion i ymdopi â byd sy’n newid yn barhaus ac yn eu cynorthwyo i ddatblygu’n ddysgwyr hyderus gydol oes.