Erthyglau newyddion |

Unedau cyfeirio disgyblion yn diwallu anghenion dysgwyr, ond argymhellir y dylid canolbwyntio mwy ar eu dychweliad i ysgolion prif ffrwd

Share this page

Mae dysgwyr mewn unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn cael mynediad at gwricwlwm sy’n diwallu eu hanghenion, ond mae llawer ohonynt yn treulio’n rhy hir yn cael addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) ac nid ydynt yn dychwelyd i addysg brif ffrwd, yn ôl adroddiad newydd gan Estyn. Mae hefyd yn amlygu y bu cynnydd yn nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n cael eu cyfeirio at ddarparwyr AHY ers y pandemig, er enghraifft unedau cyfeirio disgyblion, ar gyfer anghenion iechyd meddwl.

Mae’r adroddiad, Tegwch profiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY), yn datgelu bod dysgwyr yn aml eisiau aros mewn UCD yn hytrach na dychwelyd i addysg brif ffrwd. Mewn sgyrsiau ag arolygwyr, dywedodd dysgwyr eu bod yn cael eu cynorthwyo a’u gwerthfawrogi’n fwy mewn UCDau, yn eu barn nhw. Ychydig iawn ohonynt oedd eisiau dychwelyd i ysgol brif ffrwd. Mae angen cymorth priodol iddynt drosglwyddo’n ôl i addysg brif ffrwd a chaniatáu i’r gwaith ymyrraeth gynnar werthfawr y mae UCDau yn ei wneud fod yn hygyrch i bobl ifanc eraill sydd ei angen.

Dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans, ‘Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol ar gyfer dysgwyr sydd mewn perygl o gael eu gwahardd o ysgol brif ffrwd neu’n cael trafferth mynychu oherwydd anghenion cymdeithasol, emosiynol neu les. Mae UCDau yn rhan hanfodol o’r system addysg, ond mae gormod o ddisgyblion yn aros yno’n rhy hir, yn y pen draw. Daw’r adroddiad hwn ar adeg pan mae atgyfeiriadau i ddarparwyr AHY wedi cynyddu’n sylweddol.  Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion heddiw yn rhoi mewnwelediad hanfodol ar heriau’r system ar hyn o bryd, a sut y gallai gynorthwyo rhai o’n dysgwyr mwyaf bregus yn well.

Canfu’r arolygiaeth hefyd fod gormod o ddisgyblion yn derbyn addysg ran-amser yn unig trwy eu UCD neu wasanaethau tiwtora awdurdodau lleol. Mae sicrhau bod dysgwyr yn derbyn eu hawl i gael addysg amser llawn yn argymhelliad allweddol yn yr adroddiad.

Mae astudiaethau achos o UCDau ledled Cymru yn ymddangos yn yr adroddiad. Mae Ysgol Plas Cefndy, Sir Ddinbych, yn cynnig blociau o leoliadau tymor byr ar gyfer disgyblion cynradd sy’n rhannu amser yn yr UCD gydag amser mewn addysg brif ffrwd. Mae’r patrwm penodol hwn yn cadw dysgwyr mewn cysylltiad â’u hysgol brif ffrwd, yn helpu’r UCD a’r ysgol i weithio gyda’i gilydd ar y cwricwlwm ac yn cefnogi ailintegreiddio pan ddaw’r amser. O ganlyniad, mae cyfraddau uchel o ddisgyblion yn dychwelyd i’w hysgol brif ffrwd. 

Dywed Andrea Davies, AEF ac awdur yr adroddiad, ‘Hoffwn ddiolch i’r awdurdodau lleol yr ymwelom â nhw am eu didwylledd a’u tryloywder. Dangosodd cymaint o weithwyr proffesiynol eu hymroddiad i gael y cymorth yn gywir. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i’r dysgwyr am rannu eu profiadau.