Heddiw, bydd Estyn yn cyhoeddi adroddiad ar gyfer pobl ifanc i’w cynorthwyo i deimlo’n fwy hyderus am adnabod a herio aflonyddu rhywiol ac ymddygiad amhriodol gan ddisgyblion eraill. Bydd yr adroddiad hwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc yn cynorthwyo ysgolion i adnabod a herio aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a bydd yn helpu staff a disgyblion i atgyfnerthu negeseuon am beth sy’n ymddygiad derbyniol, ac i’r gwrthwyneb.

Mae’n dilyn adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn ym mis Rhagfyr 2021 a amlygodd brofiadau o aflonyddu rhywiol ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae’r adroddiad, o’r enw Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon – Profiadau o aflonyddu rhywiol ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru, yn cynnwys mewnwelediad gan 1,300 o ddisgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru rhwng 12 ac 18 oed. Dywed disgyblion fod aflonyddu rhwng cyfoedion yn digwydd ar-lein a’r tu allan i’r ysgol yn bennaf, ond maent yn teimlo ei bod yn bwysig fod athrawon a staff ysgolion yn deall pa mor gyffredin ydyw. 

Dywedodd disgyblion wrth arolygwyr fod heclo, rhywun yn gofyn iddynt am luniau noeth, pobl yn gwneud sylwadau cas neu homoffobig a chywilyddio corff wedi dod yn broblem fawr, a dywedon nhw eu bod eisiau i athrawon gymryd camau rhagweithiol ac ataliol i ddelio ag aflonyddu rhywiol ymhlith pobl ifanc.

Mae’r adroddiad newydd sy’n addas ar gyfer pobl ifanc wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch i bobl ifanc, ac yn canolbwyntio ar negeseuon allweddol gwaith ymchwil Estyn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021, ynghyd â chyfeirio disgyblion yn ddefnyddiol at ragor o wybodaeth a chymorth. Mae hefyd yn darparu ystod o bwyntiau trafod y gall ysgolion a chynghorau ysgolion eu defnyddio i archwilio’r materion. Yn yr adroddiad ym mis Rhagfyr, dywedodd disgyblion wrth arolygwyr mai dim ond 2 o 10 disgybl sydd wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol sy’n dweud wrth athro, ac oherwydd ei fod yn digwydd mor aml, mae llawer yn ei ystyried yn ymddygiad ‘normal’. Mae Estyn eisiau cynorthwyo ysgolion i herio hyn â thrafodaeth agored.

Dywed Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi yn Estyn,

Rydyn ni’n falch y bydd ein hadroddiad diweddaraf yn cynorthwyo cymunedau ysgolion ledled Cymru i ddeall a herio aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn well, a gwybod ble i fynd am gyngor.

Dysgwyr sydd wrth wraidd ein gwaith, ac mae’r adroddiad hwn yn cynnwys mewnwelediadau gan ddarparwyr ledled Cymru gyfan a fydd yn cynnig syniadau gwerthfawr i wella ymagwedd ysgolion. Canfuom ni fod yr ysgolion gorau yn gwneud yn siŵr fod parch yn brif flaenoriaeth.

Ni ddylai fod rhaid i bobl ifanc ddelio ag aflonyddu rhywiol o unrhyw fath, ac rydyn ni’n bryderus ynghylch canfyddiadau ein hadroddiad diweddar, sy’n dangos bod y mater hwn yn dod yn broblem fawr i bobl ifanc ac ysgolion a’i fod yn digwydd yn amlach nag yr ydym yn meddwl. Rhaid herio’r ymddygiad hwn ar draws cymdeithas.

Mae angen i ni gyd weithio gyda’n gilydd i newid agweddau ac ymddygiad ynghylch aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a bydden ni’n annog ysgolion i ddatblygu ymagwedd ‘ysgol gyfan’ at addysg a herio’r mater hwn.