Adroddiad thematig |

Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon - Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru

Share this page

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ym mywydau pobl ifanc oedran uwchradd, ac yn adolygu’r diwylliant a’r prosesau sy’n helpu gwarchod a chynorthwyo pobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru. Mae aflonyddu rhywiol yn digwydd pan fydd person yn ymgymryd ag ymddygiad digroeso o natur rhywiol sydd gyda’r bwriad neu’r effaith o:

  • amharu ar urddas rhywun; neu
  • Greu amgylchedd bygythiol, cas, diraddiol, ymosodol neu sy’n cywilyddio iddynt

Argymhellion

Dylai ysgolion uwchradd:

  • A1 Gydnabod bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fynych iawn ym mywydau disgyblion ifanc a mabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan ataliol a rhagweithiol i ddelio â’r mater. Rhan bwysig o hyn yw ei bod yn cynnwys darparu sicrwydd i ddisgyblion y bydd staff ysgol yn cymryd pob achos o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion o ddifrif ac yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni ac asiantaethau allanol.
  • A2 Darparu cyfleoedd dysgu digonol, cronnol a buddiol ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oedran gyfan am berthnasoedd iach, addysg rhyw a rhywioldeb. Mae hyn yn cynnwys darparu amgylchedd diogel, cefnogol a galluogol ar gyfer trafodaethau agored a gonest.
  • A3 Gwella’r ffordd maen nhw’n cofnodi, categoreiddio a dadansoddi achosion o aflonyddu a bwlio. Dylai cofnodion gynnwys manylion am y math o achosion, a’u natur, yr effaith ar y dioddefwr a chamau gweithredu priodol i ymateb i gyflawnwyr a dioddefwyr, fel ei gilydd. Dylai arweinwyr sicrhau eu bod yn adolygu cofnodion yn rheolaidd, ac yn gwerthuso effaith eu gweithredoedd ar les disgyblion.
  • A4 Sicrhau bod holl staff ysgolion yn cael cyfleoedd dysgu proffesiynol rheolaidd a phwrpasol ar faterion addysg bersonol a chymdeithasol, yn cynnwys perthnasoedd, rhywedd, amrywiaeth a thrawsnewid. Mae hyn yn cynnwys darparu awyrgylch diogel, anogol a chefnogol ar gyfer trafodaethau agored ac onest.

Dylai awdurdodau lleol:

  • A5 Weithio gydag ysgolion i gasglu, categoreiddio a dadansoddi’r holl ddata ar fwlio ac aflonyddu yn gywir ac yn gynhwysfawr. Yn ychwanegol, cynorthwyo ysgolion i ddadansoddi’r wybodaeth hon yn rheolaidd i nodi tueddiadau a rhoi trefniadau adferol ar waith.
  • A6 Cynllunio ymyrraeth a chymorth addas ar faterion rhyw ar lefel ysgol ac awdurdod lleol a gwerthuso effaith hyn ar les disgyblion yn rheolaidd.
  • A7 Darparu dysgu proffesiynol angenrheidiol ar gyfer staff ysgol i’w galluogi i fabwysiadu ymagwedd ragweithiol tuag at aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, yn cynnwys bwlio ac aflonyddu homoffobig, deuffobig a thrawsffobig. Dylai hyn ddigwydd mewn cydweithrediad â’r consortia rhanbarthol lle y bo’n briodol.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 Weithio gydag awdurdodau addysg lleol er mwyn gwella’r ffordd y maent yn casglu gwybodaeth am fwlio ac aflonyddu gan ysgolion a sicrhau bod awdurdodau lleol yn adnabod ac yn ymateb i batrymau a thueddiadau mewn ymddygiad. Mae hyn er mwyn cynllunio arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth addas i ysgolion.
  • A9 Sicrhau bod ysgolion yn cael diweddariadau rheolaidd a llawn gwybodaeth ar arferion gorau ac adnoddau addas sydd ar gael i’w cynorthwyo i gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb