Byddwn yn cyhoeddi’r llawlyfrau arweiniad diweddaraf “Sut rydym yn arolygu” a “Beth rydym yn ei arolygu” ar gyfer pob sector wrth baratoi ar gyfer ein trefniadau arolygu newydd a fydd ar waith o fis Medi 2024.
Mae’r llawlyfrau hyn yn adnodd gwerthfawr i arweinwyr ysgol, athrawon, a rhieni gael cipolwg ar y safonau a’r methodolegau trwyadl a ddefnyddir yn ystod arolygiadau addysgol.
Rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau bod pob arolygiad yn brofiad cadarnhaol, gan sicrhau’r gorau i ddysgwyr, cynnig deialog broffesiynol ac adeiladol i arweinwyr a rhannu ein profiadau eang o bob rhan o Gymru i gefnogi gwelliant.
Ysgolion a Gynhelir ac UCDau
Mae ein llawlyfrau yn nodi ein dull o arolygu ysgolion a gynhelir (cynradd, ysgolion uwchradd, pob oed ac ysgolion arbennig), ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae hyn yn cynnwys ein meddylfryd a’n methodoleg arolygu, ac yn cyflwyno ein hymweliadau interim newydd.
Sylwch y bydd ein canllawiau presennol yn parhau yn eu lle tan ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Beth rydym yn ei arolygu - ysgolion a gynhelir ac UCDau
Darganfyddwch fwy am y ffordd y bydd ein trefniadau arolygu yn newid o fis Medi 2024. Mae ein fideo yn amlinellu’r newidiadau i arolygu ar gyfer ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion.
Ysgolion annibynnol
Mae’r llawlyfr arweiniad hwn ar gael yn Saesneg yn unig.