Mae’r adran hon yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu darpariaeth addysg, medrau a gwaith yng ngharchardai dynion o 2025. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a’r methodolegau arolygu. Defnyddir y term ‘darparwr’ trwy gydol y ddogfen hon i gyfeirio at weithgareddau addysg, medrau a gwaith y carchar.
Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr ag arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer darpariaeth addysg, medrau a gwaith yng ngharchardai dynion, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall darparwyr a phartneriaid ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.
Pan mae’r arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys ciplun ar yr arfer hon yn rhan o’r adroddiad arolygu. Pan mae’r arolygiad yn nodi pryderon pwysig o ran safonau, ansawdd addysg a hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi (HMIP) yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant trwy ei phroses ar gyfer adolygiadau cynnydd annibynnol (ACAau). Gellir dod o hyd i Arweiniad ar ACAau ar wefan Carchardai AEF.
Mae mwy o wybodaeth am arolygiadau ar ein gwefan www.estyn.llyw.cymru