Tywyn Primary School - Estyn
Cynradd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Tywyn Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Arferion Cynhwysol

Mae ethos cynhwysol cryf yn sail i waith yr ysgol. Mae gan arweinwyr systemau a disgwyliadau clir i sicrhau bod disgyblion yn y dosbarthiadau prif ffrwd a’r dosbarth cymorth dysgu (LSC) yn dysgu, yn chwarae ac yn cymdeithasu gyda’i gilydd lle bynnag y bo modd. Mae staff yn addasu’r dysgu’n dda, gan alluogi disgyblion i gymryd rhan mewn profiadau ar y cyd. Mae’r dull hwn yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn lleihau rhwystrau rhag dysgu ac yn cefnogi cynnydd a lles disgyblion, yn ogystal â’u hymdeimlad o falchder o berthyn i gymuned yr ysgol.

Manylion

Cyfeiriad

Channel View
Sandfields
Port Talbot
SA12 6JF