Arfer Effeithiol |

Ymgysylltu â rhieni i wella presenoldeb disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
228
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd San Helen yng nghanol dinas Abertawe.  Mae 228 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed yn yr ysgol.  Mae wyth dosbarth prif ffrwd, gan gynnwys darpariaeth feithrin ran-amser.

Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned ethnig amrywiol, ac mae 22 o ieithoedd gwahanol sy’n cael eu siarad gan ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i wyth deg wyth y cant o ddisgyblion.  Mae un deg tri y cant o ddisgyblion yn wyn – ethnigrwydd Prydeinig.  Mae tua 16% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol (20%).  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn cael gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae’r ysgol wedi nodi bod gan 32% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer Cymru (25%).  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Arwyddair yr ysgol yw ‘Pawb yn Wahanol, Pawb yn Gyfartal’ (‘All Different, All Equal’), a datganiad cenhadaeth yr ysgol yw ‘Disgwyl y gorau, rhoi’r gorau, bod y gorau’ (‘Expect the best, give the best, be the best.’)  Mae Ysgol Gynradd San Helen yn ymdrechu’n barhaus i wella darpariaeth, cymorth a chyfleoedd ar gyfer ei theuluoedd sydd mewn angen, ac mae’n credu ei bod yn bosibl gwella cyflawniadau academaidd a hunan-barch er mwyn torri’r cylch tlodi ac adeiladu ar yr agweddau cadarnhaol y mae hyn yn ei greu.

Un o ffactorau pwysicaf y Grant Amddifadedd Disgyblion (PDG), sydd wedi arwain at nodi, gweithredu a datblygu nifer o fentrau, fu’r nod i sicrhau bod Ysgol Gynradd San Helen yn ganolbwynt i’r gymuned.  Gan fod cefndiroedd ieithyddol a diwylliannol mor amrywiol ymhlith ei disgyblion, teimlai arweinwyr ei bod yn bwysig cryfhau cysylltiadau â’r gymuned gynhenid i sicrhau dealltwriaeth gliriach o’r gwerthoedd ar y cyd.  Roedd yr angen i wella medrau Saesneg i annog cyfathrebu yn flaenoriaeth pan gyflwynwyd y grant gan y llywodraeth.  Yn ychwanegol, nododd yr ysgol nifer o ddosbarthiadau dysgu oedolion, a fyddai'n annog rhagor o ryngweithio. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

I ddechrau, nododd yr ysgol fod angen ymgysylltu â’i disgyblion a gwella ei phartneriaethau â rhieni a’r gymuned amrywiol y mae’n ei gwasanaethu.  Wrth lwyddo i gyflawni hyn, hysbysebodd yr arweinwyr ddosbarthiadau, a fyddai’n annog rhagor o ryngweithio rhwng yr ysgol a’r rhieni yn yr ardal gyfagos, yn ogystal â rhieni disgyblion presennol.  Wedyn, cyflwynodd yr ysgol fentrau ar gyfer y disgyblion mewn angen, er mwyn sefydlu rhaglen gynhwysfawr i ymgysylltu â theuluoedd.

Mae tîm yr ysgol ar gyfer Ymgysylltu â Theuluoedd wedi gallu cefnogi a chynnal darpariaeth ar ôl yr ysgol.  Mae hyn yn cynnwys Clwb Cylchgronau, sy’n creu rhifyn misol, Clwb Darllen wythnosol i ysbrydoli darllenwyr sy’n cael trafferth, Clwb Awduron Ifanc sy’n ymestyn medrau llythrennedd disgyblion, a rhaglen fathemateg ar gyfer y disgyblion hynny y mae staff wedi nodi eu bod yn fwy abl a thalentog.  Yn y dosbarth, mae’r tîm yn cefnogi mathemateg yng nghyfnod allweddol 2 ac yn addysgu disgyblion mewn grwpiau gallu ar gyfer llythrennedd.  Mae’r ysgol yn cynnal sesiynau dysgu un i un ar gyfer dysgwyr sy’n ‘dal i fyny’ ac yn cynnal sesiynau grŵp i wella ymddygiad, hyder a lles disgyblion.  Yn ychwanegol, mae pob un o’r disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael sesiwn anogaeth lle mae staff yn canolbwyntio ar unrhyw bryderon neu gryfderau a allai fod ganddynt am yr unigolyn hwnnw.

Mae ymgysylltu â theuluoedd yn datblygu’n barhaus, ac mae staff wedi dechrau hyfforddi rhieni i’w galluogi i gefnogi a rhannu eu medrau â rhieni eraill.  Yn y dyfodol, mae’r ysgol yn bwriadu hyfforddi oedolion sydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth o ieithoedd, i’w galluogi i gyrraedd cynifer o deuluoedd ag y bo modd y mae angen arweiniad arnynt.

Mae’r rhyngweithio cadarnhaol â theuluoedd y mae’r ysgol wedi ei feithrin wedi galluogi iddi fynd i’r afael â phresenoldeb a chymryd gwyliau yn ystod y tymor. 

Mae rhieni wedi gweithredu’n gadarnhaol yn unol â chyngor a gynigiwyd yn ystod y cyfweliadau gwyliau ysgol gyda thîm y Grant Amddifadedd Disgyblion.  O ganlyniad, mae disgyblion yn cymryd llai o wyliau yn ystod y tymor, ac mae presenoldeb yn gryfder sylweddol yn yr ysgol erbyn hyn.  Mae darpariaeth ar ôl yr ysgol yn canolbwyntio ar les a hyder disgyblion.  Mae staff yn targedu disgyblion penodol i ddarparu ar gyfer eu hanghenion penodol.  O ganlyniad, mae’r effaith yn amlwg yn gymharol gyflym.  Mae hyn yn galluogi staff i gefnogi nifer dda o ddisgyblion trwy gydol y flwyddyn, gan barhau i fonitro’r disgyblion hynny nad ydynt yn cael darpariaeth dargedig mwyach, a sicrhau eu bod yn parhau i wneud cynnydd da.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau disgyblion?

  • Deilliannau a hyder gwell ar gyfer disgyblion targedig
  • Presenoldeb gwell a gostyngiad yn y gwyliau sy’n cael eu cymryd yn ystod y tymor
  • Hyder gwell ymhlith rhieni
  • Perthnasoedd gwell gyda rhieni a’u cyfranogiad cynyddol ym mywyd yr ysgol
  • Cysylltiadau gwell â’r gymuned ehangach ac asiantaethau eraill
  • Amgylchedd dysgu cwbl gynhwysol

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer dda hon yn anffurfiol ar lefel clwstwr ac wedi cynnal ymweliadau gan staff o ysgolion eraill.  Mae wedi rhannu ei harferion ymgysylltu â theuluoedd gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) ac asiantaethau eraill yn y gymuned fel y Tîm Cefnogi Pobl Ifanc Ethnig.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad ar y sector cynradd – Tymor y Gwanwyn 2021

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o alwadau ffôn ymgysylltu a wnaed i 520 o ysgolion cynradd rhwng dechrau mis Tachwedd 2020 a diwedd mis Chwefror 2021. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol i gyrraedd eu potensial

Mae staff yn Ysgol Gynradd San Helen yn rhoi cymorth da i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn sicrhau bod hyder gan ddisgyblion a rhieni yn yr hyn y mae’r ysgol yn ei wneud ar gyfer y dysg ...Read more
Adroddiad thematig |

Arfer effeithiol o ran gwella presenoldeb mewn ysgolion cynradd - Mehefin 2015

pdf, 948.25 KB Added 12/06/2015

Yr adroddiad hwn yw’r ail o blith dau adolygiad thematig a luniwyd gan Estyn i ymateb i gais am gyngor am arfer o ran gwella presenoldeb gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei lythyr cylch gwaith b ...Read more