Adroddiad thematig |

Arfer effeithiol o ran gwella presenoldeb mewn ysgolion cynradd - Mehefin 2015

Share this page

Adroddiad thematig | 12/06/2015

pdf, 948.25 KB Added 12/06/2015

Yr adroddiad hwn yw’r ail o blith dau adolygiad thematig a luniwyd gan Estyn i ymateb i gais am gyngor am arfer o ran gwella presenoldeb gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei lythyr cylch gwaith blynyddol. Canolbwyntiodd yr adroddiad cyntaf, a gyhoeddwyd ym Medi 2014, ar strategaethau a chamau gweithredu mewn ysgolion uwchradd ac awdurdodau lleol i wella presenoldeb. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar arferion mewn ysgolion cynradd sydd wedi arwain at lefelau presenoldeb da neu lefelau sy’n gwella ac mae’n cynnwys astudiaethau achos arfer orau.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • roi’r strategaethau a nodwyd yn yr adroddiad hwn ar waith i wneud yn siŵr bod pob disgybl yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia:

  • hwyluso rhannu arfer orau rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol
  • gwneud yn siŵr bod ymgynghorwyr her yn herio a chefnogi arweinwyr ysgol mewn perthynas â chymryd camau ar bresenoldeb disgyblion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • roi cyhoeddusrwydd i’r gyfran ar ‘Strategaethau i ysgolion wella presenoldeb a rheoli diffyg prydlondeb’ yn y ‘Fframwaith Presenoldeb Cymru Gyfan’

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol