Arfer Effeithiol |

Sicrhau’r ddarpariaeth orau ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

Share this page

Nifer y disgyblion
1132
Ystod oedran
11-18
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ysgol ddynodedig Gymraeg i ddisgyblion 11-18 oed. Cynhelir yr ysgol gan awdurdod addysg lleol Caerdydd ac mae’n gwasanaethu canolbarth dinas Caerdydd o’r gogledd i’r de.  Mae ynddi 1,132 o ddisgyblion.  Derbynia’r ysgol ddisgyblion o’r ystod llawn o allu.  Mae 20% o ddisgyblion ar gofrestr anghenion dysgu ychwanegol gydag ychydig dros 1% o ddisgyblion â datganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae canolfan adnoddau arbenigol i ddisgyblion ag anghenion dysgu dwys o bob rhan o’r awdurdod addysg lleol wedi ei lleoli yn yr ysgol. Mae ynddi 13 o ddysgwyr.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Sail gweledigaeth yr ysgol yw cynhwysiant academaidd a chymdeithasol i bawb, a sicrhau bod mynediad gan bawb at holl weithgareddau cymuned yr ysgol.  Er mwyn llwyddo yn hyn, gwneir pob ymdrech bosib i addasu’r ddarpariaeth ac, yn allweddol, i ymateb yn hyblyg i anghenion pob dysgwr.  Un ffactor allweddol sy’n galluogi hyn yw sicrhau dealltwriaeth lawn o anghenion pob dysgwr, ac yna sicrhau bod y ddealltwriaeth hon yn cael ei chyfathrebu’n effeithiol ymysg holl staff yr ysgol.  Rhoddir ffocws glir ar hybu lles holl ddysgwyr yr ysgol, gan ddeall bod hyn yn ein galluogi i ddiwallu anghenion academaidd dysgwyr yn effeithiol.

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer addysgu, cefnogi a gofalu am ddisgyblion ag anawsterau dysgu dwys yn y ganolfan adnoddau arbenigol yn ardderchog. Nodwedd eithriadol o hyn yw’r modd y mae’r staff yn sicrhau bod y disgyblion hyn yn integreiddio’n hynod o lwyddiannus i fywyd yr ysgol brif lif ac yn elwa’n llawn o’r cyfleoedd eang trawsgwricwlaidd sydd ar gael. Mae hyn yn cyfoethogi profiadau dysgu holl ddisgyblion yr ysgol (Estyn, 2017).

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

  1. Cynhwysiant academaidd a chymdeithasol - Cynigir ystod eang o ymyraethau ar gyfer dysgwyr ag ADY er mwyn hybu sgiliau llythrennedd, rhifedd, iaith a lleferydd a sgiliau cymdeithasol a datblygiad emosiynol ac i sicrhau bod y ddarpariaeth orau posib gan bob dysgwr.  Fel rheol, cynhelir ymyraethau dros gyfnod byr o amser a chynigir targedau penodol i ddysgwyr dros gyfnod yr ymyrraeth.  O ganlyniad i’r ffocysu dwys hwn, gwelir bod dysgwyr yn gwneud cynnydd da iawn. Arfernir effeithiolrwydd ac effaith pob ymyrraeth yn ofalus iawn.  I’r dysgwyr â’r anghenion mwyaf dwys, darperir cwricwlwm unigol er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial.  Gwelir ffocws gref ar ddatblygiad sgiliau bywyd, yn enwedig i’r dysgwyr hynny â’r anghenion mwyaf dwys.  Nodwedd eithriadol ar gynhwysiant yw’r ffordd y mae’r dysgwyr ag anghenion dwys a chymhleth yn cael eu cynnwys yng nghymuned yr ysgol.  Cynigir cefnogaeth i’r dysgwyr hynny er mwyn sicrhau mynediad at weithgareddau cymdeithasol yr ysgol, a gwelir bod nifer o ddysgwyr ag anghenion llai dwys hefyd yn manteisio ar hyn, gan hybu cynhwysiant pawb a chyfoethogi profiadau dysgu holl ddisgyblion yr ysgol.
  2. Dealltwriaeth lawn o anghenion - Rhoddir ffocws gref ar gasglu gwybodaeth am ddysgwyr cyn iddynt drosglwyddo i’r ysgol a sicrhau bod y wybodaeth sydd gan bartneriaid cynradd, rhieni a dysgwyr, ac asiantaethau allanol lle bo’n berthnasol, yn hygyrch i staff.  Gwneir hyn trwy lunio Proffil Unigol ar gyfer pob dysgwr ag ADY.  Cryfderau a diddordebau’r dysgwr yw man cychwyn y Proffil, ac ychwanegir at hwn ddisgrifiad o anghenion y dysgwr a strategaethau dysgu sydd wedi’u llunio’n benodol gan arweinwyr ac arbenigwyr yr Adran Gynhwysiant.  Cynhelir asesiadau mewnol arbenigol pellach os nad oes dealltwriaeth lawn o anghenion dysgwr.  Mae’r Proffil Unigol yn aros gyda’r dysgwr gydol ei amser yn yr ysgol, gan addasu’r ddogfen i sicrhau ei fod yn gyfredol a bod ymateb i lais y dysgwyr dros amser.
  3. Ymateb yn hyblyg - O sichrau dealltwriaeth lawn a holistaidd am ddysgwyr, gellir ymateb i’w hanghenion yn hyblyg  ac mae hyn yn gynsail i weledigaeth gynhwysol yr ysgol.  Trwy gydweithio’n agos â’r dysgwyr a’r sawl sydd yn eu hadnabod yn dda, gellir ymateb yn hyblg a sichrau bod y newidiadau bychain sy’n gwneud gwahaniaeth mawr yn cael eu mabwysiadu.  Mae hyn yn ddyletswydd ar holl staff yr ysgol.  Mae ffocws gref ar gydweithio agos rhwng staff cynhwysiant a staff bugeiliol yr ysgol a golyga hyn fod pob dysgwr ag ADY yn derbyn y gefnogaeth a’r ddarpariaeth orau ar y pryd.  Defnyddir ‘Hafan’ yr Ysgol, i alluogi hyblygrwydd sylweddol ar gyfer rhai dysgwyr.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r egwyddorion hyn, llwydda’r ysgol i hybu datblygiad academaidd a chymdeithasol dysgwyr ag ADY a hefyd i greu ethos gynhwysol a chefnogol ar draws yr ysgol.  Dengys arfarniadau o ymyraethau unigol eu bod yn effeithiol ac effeithlon a bod cynnydd dysgwyr dros gyfnod ymyraethau yn dda iawn.  Yn gyffredinol, mae disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol yn gwneud cynnydd cryf o un cyfnod i’r nesaf (Estyn, 2017). 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf

pdf, 1.22 MB Added 17/06/2020

Nod yr arolygiad pynciol hwn yw rhoi trosolwg i Lywodraeth Cymru am safonau, agweddau dysgwyr, darpariaeth ac arweinyddiaeth o ran y Gymraeg fel pwnc Safon Uwch Iaith Gyntaf. ...Read more
Adroddiad thematig |

Disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif ffrwd - Adroddiad arfer dda

pdf, 1.52 MB Added 23/01/2020

Mae’r ffocws yn yr adroddiad hwn ar yr arfer effeithiol gan ysgolion o dan y fframwaith statudol presennol a’r trefniadau a amlinellwyd yng Nghod Ymarfer Cymru (2002). ...Read more
Arfer Effeithiol |

Datblygu dinasyddion Cymreig cyflawn a pharchus

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn gymuned ysgol gefnogol a chroesawgar. Adlewyrchir hyn yng nghwricwlwm a gweithgareddau ehangach yr ysgol. ...Read more