Adroddiad thematig |

Disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif ffrwd - Adroddiad arfer dda

Share this page

Mae’r ffocws yn yr adroddiad hwn ar yr arfer effeithiol gan ysgolion o dan y fframwaith statudol presennol a’r trefniadau a amlinellwyd yng Nghod Ymarfer Cymru (2002). Mae hyn yn golygu ein bod, trwy gydol yr adroddiad, yn cyfeirio at AAA a’r cydlynydd anghenion addysgol arbennig (CydAAA), er y gallai’r ysgolion unigol yr ymwelom â nhw fod yn defnyddio’r termau ADY a’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CydADY).

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Wella ansawdd targedau yn CAUau disgyblion er mwyn hyrwyddo cynnydd disgyblion mewn dysgu ac annibyniaeth
  • A2 Sicrhau bod trefniadau hunanwerthuso yn rhoi mwy o sylw i’r cynnydd a wna disgyblion ag AAA o ran eu hanghenion, eu galluoedd a’u mannau cychwyn unigol

Dylai awdurdodau lleol:

  • A3 Gynorthwyo ysgolion i gael y gwasanaethau arbenigol allanol y mae eu hangen arnynt i hyrwyddo lles a chynnydd disgyblion ag AAA
  • A4 Hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion eraill a gynhelir yn yr awdurdod lleol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A5 Gynorthwyo ysgolion ac awdurdodau lleol yn ystod cyfnod gweithredu’r trefniadau statudol newydd er mwyn cefnogi disgyblion ag ADY

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol