Arfer Effeithiol |

Rôl yr hyrwyddwyr ymchwil a’u datblygiad fel hwyluswyr effeithiol arferion wedi’u llywio gan ymchwil yn eu cyd-destunau

Share this page

Nifer y disgyblion
765
Dyddiad arolygiad

 

Mae cyflwyno Hyrwyddwyr Ymchwil yn y lleoliad hwn wedi annog rhannu ac ymgysylltu â mwy o ymchwil, gan helpu i bontio’r bwlch rhwng ymchwil ac arfer mewn addysgu.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Fel rhan o’i phartneriaeth â Phrifysgol Rhydychen, defnyddiodd Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) egwyddorion ymarfer clinigol wedi’u llywio gan ymchwil Cynllun Interniaeth Rhydychen (Burn a Mutton, 2013), gan gynnwys yr ymrwymiad i weithio’n agosach ag ysgolion i ddylunio cynnwys, strwythur a strategaethau addysgegol y ddarpariaeth AGA gyda’i gilydd. Mae ymarfer clinigol, term sy’n deillio o’r proffesiwn meddygol, yn dibynnu ar gefnogaeth arloesol Hyrwyddwyr Ymchwil ochr yn ochr â threfniadau mwy traddodiadol AGA yn yr ysgol sy’n dibynnu ar fentoriaid ac uwch fentoriaid. Mae Hyrwyddwyr Ymchwil wedi cael eu penodi ym mhob un o Ysgolion/Cynghreiriaid Partneriaeth Arweiniol y bartneriaeth, gyda chylch gwaith i hyrwyddo a chefnogi ymgysylltiad ag ymchwil gan athrawon dan hyfforddiant o fewn yr Ysgolion/Cynghreiriaid Partneriaeth Arweiniol, yn enwedig ynghylch aseiniadau ymchwil yn yr ysgol. Maent yn fodel rôl cadarnhaol ac yn ffynhonnell gymorth ymarferol, gan fynd i'r afael a bwlch cydnabyddedig rhwng ymchwil ac ymarfer yn y proffesiwn addysgu ar yr un pryd (McIntyre, 2005). Un o uchelgeisiau ehangach cyflwyno Hyrwyddwyr Ymchwil yw cefnogi mwy o ymgysylltu ag ymchwil, o fewn ysgolion, ac ar draws y bartneriaeth. Mae sesiynau cyfnos a chyfarfodydd datblygu rheolaidd ar gyfer Hyrwyddwyr Ymchwil a chydweithwyr partneriaeth yn annog mwy o ddeialog a dealltwriaeth well o ymchwil rhwng partneriaid.

Mae cyflwyno Hyrwyddwyr Ymchwil o fewn Partneriaeth Caerdydd yn arwyddocaol mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, mae neilltuo dewis ffocws yr aseiniad ymchwil i ysgolion, ar sail eu hanghenion, yn nodi symud rhag AGA dan ddylanwad pennaf prifysgolion (Pugh et al., 2020). Mae staff a systemau prifysgol yn cymeradwyo ac yn asesu’r aseiniadau o hyd, ond mae lledaenu’r canfyddiadau yn yr ysgol yn golygu bod yr ymchwil yn berthnasol ar unwaith i gyd-destun ac anghenion penodol yr ysgol unigol.

Caiff Hyrwyddwyr Ymchwil eu cefnogi trwy ddysgu proffesiynol mewn cymuned arfer sy’n cael ei hwyluso gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’r ymgysylltu hwn yn cefnogi meithrin capasiti arferion ac ymddygiadau wedi’u llywio gan ymchwil yn systemig ar gyfer ysgolion, staff y bartneriaeth a myfyrwyr.
Mae dysgu proffesiynol Hyrwyddwyr Ymchwil yn elwa ar fentrau cenedlaethol eraill, ac ymchwil a wneir mewn prosiectau sy’n hyrwyddo ymchwil ac ymholi. Mae’r rhain yn cynnwys y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol (NSERE) a’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP) sy’n llywio ymagweddau at ddatblygu rôl yr Hyrwyddwr Ymchwil.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Gellir gweld gwaith yr Hyrwyddwyr Ymchwil mewn deilliannau myfyrwyr ac yng ngwaith ysgolion partneriaeth. Mae aseiniadau myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth well o ddatblygu addysgu, dysgu a lles mewn cyd-destun penodol. Mewn ysgolion partneriaeth, mae’r Hyrwyddwyr Ymchwil yn cefnogi datblygiad medrau ac arferion ymchwil ymhlith staff ysgolion yn ehangach.

Mewn rhai ysgolion, mae canfyddiadau o ymchwil myfyrwyr wedi dylanwadu ar wneud penderfyniadau strategol. Er enghraifft, mewn un ysgol gynradd, darparodd ymchwil y myfyrwyr ar les dystiolaeth i’r pennaeth ar gyfer dod o hyd i ddarpariaeth well ar gyfer dysgu yn yr awyr agored. 
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rôl Cydlynwyr Hyrwyddo Ymchwil yw meithrin perthnasoedd ac arwain y ddarpariaeth a’r dysgu proffesiynol ar gyfer hyrwyddwyr ymchwil ar draws y bartneriaeth. Mae’r cydlynwyr yn meithrin capasiti trwy fodelu’r defnydd o ymchwil mewn ysgolion. Maent yn ganolog i rannu a chefnogi arferion wedi’u llywio gan ymchwil ar draws y bartneriaeth.

Mae’r bartneriaeth yn rhannu deilliannau aseiniadau myfyrwyr, yn enwedig y crynodebau sy’n fwy eglur yn weledol, gyda rhanddeiliaid. Mae’r crynodebau hyn yn defnyddio ffeithluniau i gyfleu deilliannau ac effaith bosibl ymchwil yn glir ac yn gryno. Maent yn esbonio ac yn annog y defnydd o ymchwil i lywio datblygiad ysgol.

Cynhelir digwyddiadau rheolaidd i rannu ymchwil ac ymholi hefyd, fel cynadleddau ymchwil y bartneriaeth a’i chyfres seminarau ymchwil. Gwahoddir yr holl randdeiliaid i fynychu a chyfrannu at y digwyddiadau hyn trwy ledaenu eu hymchwil eu hunain. Mae’r bartneriaeth wedi cydweithio â phartneriaethau AGA eraill i rannu arfer dda wrth gynorthwyo athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu eu medrau ymchwil.

Mae’r aseiniadau ymchwil wedi’u cefnogi gan waith yr Hyrwyddwyr Ymchwil wedi arwain at gynhyrchu podlediadau, fideos Youtube a chrynodebau sy’n fwy eglur yn weledol. Mae’r rhain wedi bod yn hynod effeithiol o ran lledaenu syniadau o arferion wedi’u llywio gan ymchwil ar draws y bartneriaeth a’r tu hwnt.

Cyfeiriadau:

Burn, K. a Mutton, T. (2015) ‘A review of “research-informed clinical practice” in Initial Teacher Education’, Oxford review of education, 41(2), tt. 217–233. Ar gael yn: https://doi.org/10.1080/03054985.2015.1020104.

McIntyre, D., 2005. Bridging the gap between research and practice. Cambridge journal of education, 35(3), tt.357-382.

Pugh, C., Thayer, E., Breeze, T., Beauchamp, G., Kneen, J., Watkins, S., & Rowlands, B. (2020). Perceptions of the new role of the research champion in developing a new ITE partnership: Challenges and opportunities for schools and universities. Cylchgrawn Addysg Cymru = Wales Journal of Education, 22(1),  tt. 185– 207. https://doi.org/10.16922/
 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Picture of a teacher in front of a class
Adroddiad thematig |

Cefnogi’r Gymraeg yn Addysg Gychwynnol Athrawon: Sut mae sefydliadau addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn cynorthwyo athrawon dan hyf-forddiant i wella eu medrau Cymraeg, gan gynn-wys addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol Gweinidog y Gymraeg ac Addysg at Estyn 2022-2023. ...Read more