Adroddiad thematig |

Cefnogi’r Gymraeg yn Addysg Gychwynnol Athrawon: Sut mae sefydliadau addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn cynorthwyo athrawon dan hyf-forddiant i wella eu medrau Cymraeg, gan gynn-wys addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

Share this page

Adroddiad thematig | 14/09/2023

pdf, 1.87 MB Added 14/09/2023

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol Gweinidog y Gymraeg ac Addysg at Estyn 2022-2023. Nod yr adroddiad yw rhoi trosolwg o sut mae partneriaethau addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu eu medrau Cymraeg, gan gynnwys addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Gohiriwyd yr adolygiad hwn yn sgil y pandemig o Lythyr Cylch Gwaith y Gweinidog Addysg 2020-2021.

Dylai partneriaethau addysg gychwynnol athrawon:

A1 Cynllunio’n fwriadus i ddatblygu’r Gymraeg ymhob agwedd o’r rhaglenni addysg gychwynnol athrawon er mwyn sicrhau cefnogaeth gyson i fyfyrwyr trwy gydol eu profiad, gan gynnwys pan ar brofiad mewn ysgolion
A2 Sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer cefnogi medrau Cymraeg yn datblygu medrau personol ac addysgu myfyrwyr i ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion. Dylai hyn gynnwys addysgeg caffael a datblygu iaith mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a dwyieithog
A3 Monitro a gwerthuso effaith y ddarpariaeth ar gyfer datblygu’r Gymraeg gan ystyried sut mae myfyrwyr yn defnyddio eu medrau Cymraeg a’u haddysgeg caffael iaith i gefnogi cynnydd disgyblion mewn ysgolion
A4 Greu cyfleoedd i bartneriaethau AGA gydweithio er mwyn datblygu ac ehangu’r gefnogaeth ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

Dylai arweinwyr mewn ysgolion partneriaeth:

A5 Flaenoriaethu a chreu strategaeth bendant ar gyfer datblygu’r Gymraeg gan ymateb i ddisgwyliadau’r partneriaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru

Dylai Llywodraeth Cymru:

A6 Sicrhau eglurder yn nisgwyliadau’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth fel bod ffocws clir ar effaith ymarfer athrawon ac arweinwyr ar fedrau Cymraeg disgyblion
A7 Sicrhau bod partneriaethau AGA yn cydweithio gyda phartneriaid gwella ysgolion fel bod darpariaeth fwy cyson, cydlynol ac arbenigol ar gyfer datblygu medrau Cymraeg y gweithlu addysg fel rhan o’r continwwm dysgu proffesiynol

Gallwch ddefnyddio’r cyflwyniad PowerPoint atodedig, sy’n dynodi prif ganfyddiadau’r adroddiad, i’w ddefnyddio yn eich lleoliad.

Tagiau adnoddau