Arfer Effeithiol |

Rhoi’r grym i fyfyrwyr archwilio llwybrau addysg gwahanol

Share this page

Nifer y disgyblion
12000
Ystod oedran
16+
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn goleg addysg bellach gyda thros 4,000 o ddysgwyr amser llawn ac 8,000 o ddysgwyr rhan-amser o bob cwr o Abertawe a siroedd cyfagos.  Mae’r coleg yn cyflogi tua 1,000 o staff. Mae’n gweithredu o chwe lleoliad ar draws Dinas a Sir Abertawe.  Abertawe yw’r ail ddinas fwyaf yng Nghymru, gydag economi gymysg, yn cynnwys sectorau peirianneg, adwerthu a lletygarwch, iechyd, hamdden, twristiaeth a phrifysgol.  Daw tua chwarter o ddysgwyr y coleg o rai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig, fel y mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru yn ei nodweddu. Mae’r coleg yn cynnig cwricwlwm o lefel cyn-mynediad i lefel addysg uwch.  

Mae gan y coleg berthnasoedd gweithio cryf gydag ysgolion lleol ac mae tua 300 o ddisgyblion 14 i 16 oed yn mynychu amrywiaeth o raglenni yn y coleg bob blwyddyn, gan ennill cymwysterau galwedigaethol o lefel mynediad i lefel 2.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r astudiaeth achos hon yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth.  Mae’r gwaith a wna’r coleg gydag ysgolion ar draws Dinas a Sir Abertawe yn cynyddu ehangder ac ansawdd y dewisiadau galwedigaethol sydd ar gael i ddisgyblion 14 i 16 oed, ac mae’n cefnogi’u dilyniant.

Ym marn y coleg, mae’n hanfodol bod disgyblion 14 i 16 oed yn cael cyfleoedd i archwilio’u hopsiynau ôl-16 yn drylwyr a dod o hyd i lwybrau dilyniant llwyddiannus.  Datblygwyd dulliau amrywiol i fodloni anghenion amrywiol dysgwyr 14-16 oed, gan gynnwys ‘coleg iau’ a rhaglenni ‘kick start’ y coleg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae rhaglenni’r coleg iau yn cael eu cyflwyno yn y coleg ac yn cynnig amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys trin gwallt a harddwch, peirianneg, cerbydau modur, gwaith plymwr, technoleg ddigidol a gofal plant.  Mae dysgwyr yn cyflawni cymhwyster lefel 1, sy’n rhoi cyflwyniad i astudio pellach ar lefel 2 a thu hwnt.

Mae’r rhaglen ‘kick start’ yn cynnig cyfle i ddysgwyr archwilio amrywiaeth o sectorau galwedigaethol cyn iddynt ddewis llwybr ar gyfer astudio ymhellach, hyfforddiant neu waith.  Mae’r rhaglen hon yn targedu’r dysgwyr mwyaf agored i niwed y nodwyd ‘eu bod mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant’.  Mae’r rhaglen dwy flynedd yn eu hymestyn a’u herio i gyflawni Tystysgrif ym mlwyddyn 1 a chymhwyster Tystysgrif Estynedig ym mlwyddyn 2. 

Mae’r coleg yn gweithio’n agos gydag ysgolion a’i ddysgwyr ei hun i gael gwared ar rwystrau canfyddedig at addysg uwch a medrau lefel uwch, gan dargedu grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli mewn addysg uwch, fel y rhai o ardaloedd difreintiedig a phlant sy’n derbyn gofal.  Mae tîm y coleg yn cyflwyno rhaglen o weithgareddau i oddeutu 1,000 o ddysgwyr cynradd, uwchradd a dysgwyr y coleg bob blwyddyn.  Mae gweithgareddau’n cynnwys areithiau ysbrydoledig, medrau astudio a gweithdai arolygu, clybiau Sadwrn a gwaith cartref, prifysgol haf Blwyddyn 12, a sesiynau a gweithdai blasu pwnc.

Mae’r berthynas waith agos rhwng yr ysgolion a thîm ysgol y coleg yn caniatáu am addasu’r cwricwlwm yn ôl anghenion penodol pob ysgol, o gerbydau modur i waith fforensig, o’r cyfryngau i adeiladu.

Mae ffactorau allweddol llwyddiant y rhaglen ysgolion yn cynnwys:

• Ymgynghoriad â’r ysgol a’r anogwr dysgu i ddylunio pob cwrs

• Cymorth gan weithiwr cymorth yn y coleg i feithrin perthynas ac ennill ymddiriedaeth

• Cynnwys uned dilyniant gyrfaol ym mhob cwrs galwedigaethol

• Cymorth ar gyfer dilyniant, cymorth i ddewis llwybr priodol yn 16 oed, llenwi ffurflen gais ar gyfer y coleg a chymorth yn ystod y broses gyfweld

• Cyfleoedd i roi cynnig ar gyrsiau o ddiddordeb cyn gwneud cais

• Gweithgareddau ‘cadw’n gynnes’ yn ystod gwyliau’r haf

• Cymorth cadw trwy waith gweithwyr cymorth sy’n monitro ac yn cynorthwyo’r disgyblion penodedig

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r cyfuniad o’r tair agwedd ar y rhaglen ysgolion wedi meithrin cysylltiadau partneriaeth rhagorol gydag ysgolion lleol, gan annog dilyniant i addysg bellach.  Roedd 71% o’r disgyblion ysgol a gymerodd ran yn y coleg iau a’r rhaglenni ‘kick start’ wedi mynd ymlaen i Goleg Gŵyr Abertawe ym Medi 2017, gyda llawer o’r lleill yn mynd ymlaen i’r chweched dosbarth yn yr ysgol, i golegau eraill neu i brentisiaethau.  Ar y rhaglen ‘kick start’, cyflawnodd 26% o ddysgwyr gymhwyster uwch na’r cymhwyster y cofrestront arno’n wreiddiol.  Mae hyn yn dangos hyblygrwydd y cwricwlwm a llwyddiant addysgu wrth symbylu a herio dysgwyr i ragori ar ddisgwyliadau.

Yn ogystal â chyfraddau cyflawni a dilyniant cryf, mae dysgwyr yn cael mwy o hyder, hunan-barch a gwelliant mewn ymddygiad ac aeddfedrwydd.  Mae’r pethau hyn yn fwy anodd eu mesur, ond mae’r adborth gan ysgolion a’r disgyblion eu hunain yn cadarnhau fod yr effaith yn arwyddocaol iawn.  Yn yr un modd, mae adborth yn awgrymu bod ymwybyddiaeth dysgwyr o lwybrau dilyniant wedi gwella’n sylweddol.  Mae hyn yn eu cymell nhw ac yn ymestyn eu siawns o wneud dewisiadau da yn sylweddol. 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch

pdf, 1.24 MB Added 04/08/2020

Canllaw arfer dda ar gyfer busnes, economeg, llywodraeth a gwleidyddiaeth, y gyfraith, seicoleg a chymdeithaseg UG a Safon Uwch yn y chweched dosbarth mewn ysgolion ac mewn colegau addysg bellach. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Paratoi myfyrwyr ar gyfer eu cam nesaf ar ôl y coleg

Gall myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr gael cymorth gan arbenigwyr i’w paratoi at eu cam nesaf ar ôl y coleg. ...Read more
Adroddiad thematig |

Cynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn meysydd dysgu medrau byw yn annibynnol mewn colegau addysg bellach

pdf, 1.15 MB Added 16/06/2017

Mae’r adroddiad yn archwilio’r trefniadau ar gyfer mesur cynnydd dysgwyr ag anawsterau ac anableddau dysgu ar raglenni dysgu arbenigol mewn colegau addysg bellach (AB). ...Read more
Adroddiad thematig |

Arsylwi addysgu a dysgu yn effeithiol mewn colegau addysgu bellach

pdf, 546.81 KB Added 01/10/2015

Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi i ymateb i gais am gyngor ar ‘arsylwi addysg a dysgu’ yn effeithiol gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. ...Read more