Adroddiad thematig |

Pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch

Share this page

Adroddiad thematig | 04/08/2020

pdf, 1.24 MB Added 04/08/2020

Canllaw arfer dda ar gyfer busnes, economeg, llywodraeth a gwleidyddiaeth, y gyfraith, seicoleg a chymdeithaseg UG a Safon Uwch yn y chweched dosbarth mewn ysgolion ac mewn colegau addysg bellach.

Argymhellion

Dylai ysgolion a cholegau:

  • A1 Gryfhau’r cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu rhagor am opsiynau pwnc newydd, fel pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch, cyn dewis eu pynciau yn derfynol
  • A2 Gweithio’n gydweithredol ag ysgolion a cholegau eraill i rannu adnoddau dysgu, yn enwedig adnoddau cyfrwng Cymraeg, a chynyddu’r cyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch
  • A3 Cryfhau’r prosesau monitro a gwerthuso ar gyfer pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch i sicrhau bod athrawon ac arweinwyr yn gallu nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn gysylltiedig ag addysgu, dysgu ac asesu

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A4 Hwyluso mwy o gyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch
  • A5 Cynorthwyo ysgolion i werthuso effeithiolrwydd eu darpariaeth Safon Uwch a datblygu cynlluniau gwella targedig

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A6 Fynd i’r afael ag argaeledd cyfyngedig adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg Safon Uwch, gan gynnwys gwerslyfrau, yn y pynciau hyn

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol