Mae arweinyddiaeth gref a ffocws parhaus ar ymgorffori diogelu yn ddiwylliannol ar draws pob rhan o’r Cyngor ar lefel “calonnau a meddyliau” wedi sicrhau bod diogelu ar gyfer plant ac oedolion mewn perygl yn cael ei ddeall a’i dderbyn fel “cyfrifoldeb pawb”. Mae datblygu polisïau diogelu a gweithdrefnau gweithredu cadarn yn cefnogi ysgolion, lleoliadau a gwasanaethau ehangach yn effeithiol i ymateb yn briodol i bryderon fel maent yn codi.
Yn sgil datblygu Grŵp Diogelu Awdurdod Cyfan, adeiladwyd perchnogaeth, ymrwymiad ac atebolrwydd ar gyfer diogelu i uwch arweinwyr ar draws holl gyfarwyddiaethau’r awdurdod. Mae’r pwyslais ar welliant parhaus o fewn y grŵp hwn wedi sicrhau bod dysgu penodol o achosion diogelu yn cael ei drafod yn rheolaidd, a’i fod yn llywio arfer ac yn cael ei adlewyrchu mewn diweddariadau rheolaidd i’r Polisi Diogelu Corfforaethol.
Datblygwyd Fframwaith Archwilio Diogelu ar gyfer Gwerthuso i amlinellu’r safonau diogelu’n glir o fewn y polisi. Erbyn hyn, y Fframwaith Archwilio Diogelu ar gyfer Gwerthuso yw’r rhan bwysicaf o ran sut mae’r awdurdod yn datblygu dealltwriaeth, cydymffurfiaeth a datblygu systemau diogelu ar draws pob cyfarwyddiaeth yn y Cyngor. Caiff cwblhau hyn ei gefnogi gan yr Uned Diogelu a Sicrhau Ansawdd i gynnig cysondeb ar draws safonau, a chynnal lefel iach a chadarn o her. Mae trefniadau monitro cadarn ar waith i sicrhau y glynir at brosesau a gweithdrefnau statudol, ac yr adroddir amdanynt o fewn y fframwaith gwerthuso diogelu cyffredinol.
Caiff y wybodaeth o’r Fframwaith Archwilio Diogelu ar gyfer Gwerthuso ei choladu i nodi themâu a safonau diogelu allweddol lle mae angen cymorth a gwelliant. Caiff y broses hon ei goruchwylio gan y Grŵp Diogelu Awdurdod Cyfan, ac mae’n darparu cymorth a her ychwanegol ar lefel uwch.
Mae proses gref ar gyfer recriwtio diogel yn ddatblygiad allweddol, sy’n rhoi pwyslais ar bolisi a chydymffurfio, wedi’i gefnogi gan hyfforddiant recriwtio diogel ar gyfer yr holl reolwyr. Sefydlwyd trefniadau clir i sicrhau bod y broses ar gyfer ardystio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael ei chymhwyso’n gyson ac yn gadarn ar gyfer y gweithlu cyfan, ac ar gyfer darparwyr allanol.
Arweiniodd heriau penodol mewn recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr yn ddiogel at adolygiad trylwyr a thynhau dull yr awdurdod ymhellach. O ganlyniad, cyflwynwyd cronfa ddata i gefnogi recriwtio a hyfforddi’r holl weithwyr di-dâl a’r gwirfoddolwyr ar draws y Cyngor yn ddiogel.
Datblygwyd strategaeth hyfforddiant diogelu i nodi pwy oedd angen hyfforddiant, ac ar ba lefel. Datblygwyd ystod o offer a rhaglenni hyfforddi i sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei hyfforddi’n briodol o ran diogelu. Mae fforwm ar waith i gynorthwyo hyfforddwyr i gyflwyno rhaglen Lefel 1 a dull ‘Hyfforddiant ar gyfer Hyfforddwyr’ i sicrhau cynaliadwyedd. O ganlyniad, caiff rolau, perthnasoedd a chyfrifoldeb o fewn y broses ddiogelu eu deall yn glir gan staff, a’u cefnogi’n gorfforaethol. Ceir cyfleoedd i drafod unrhyw bryderon, a darperir cymorth ac arweiniad yn y cam cyfeirio trwy’r Uned Diogelu a Sicrhau Ansawdd.
Disgwylir i wasanaethau sy’n gweithredu yn Sir Fynwy, gan gynnwys gwasanaethau wedi’u comisiynu a’r rhai y tu allan i reolaeth uniongyrchol y Cyngor, weithredu mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo lles a diogelwch plant ac oedolion sydd mewn perygl. Datblygwyd fframwaith haenog ar gyfer comisiynu diogel gan ddefnyddio safonau gofynnol cytûn ar gyfer diogelu’r gwasanaethau hyn. Mae hyn yn golygu y gall diogelu fod yn ystyriaeth allweddol mewn trefniadau monitro contractau a threfniadau llogi a gosod y cyngor. Darperir cefnogaeth, cyngor a chymorth ymarferol helaeth i leoliadau cymunedol a gweithgarwch gwirfoddolwyr i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth dda o arfer a pholisi diogelu.
Mae dull systemau cyfan ar gyfer diogelu ar waith ar draws y cyngor, a chafodd ei ddatblygu trwy’r bartneriaeth strategol Plant a Phobl Ifanc, dulliau yn seiliedig ar leoedd mewn gwasanaethau oedolion a’r Panel Cymorth Cynnar o fewn Gwasanaethau Plant. Mae’r rhwydweithiau hyn yn meithrin rhannu gwybodaeth ynghylch themâu a materion sy’n helpu meithrin dealltwriaeth well o’n cymunedau. Mae’r berthynas waith agos rhwng yr Uned Diogelu a Sicrhau Ansawdd a rhannau allweddol o’r awdurdod o ran diogelwch cymunedol yn ymestyn y gwaith hwn ymhellach, er enghraifft gydag Uned Diogelu’r Cyhoedd, Swyddogion Trwyddedu a Phartneriaeth.
Mae dull rhagweithiol ar waith ar gyfer hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ATAL a VAWDASV gyda ffocws penodol ar faterion sy’n benodol i Sir Fynwy, cydnabyddiaeth gynnar a chyfeirio pryderon. Mae’r awdurdod wedi arwain gwaith amlasiantaethol yn ymwneud â cham-fanteisio a chaethwasiaeth fodern i godi ymwybyddiaeth, a sicrhau bod arwyddion yn cael eu hadnabod a’u cyfeirio’n briodol.