Adnabod eich plant – cefnogi disgyblion sydd wedi cael profi adau niweidiol yn ystod plentyndod
                    Adroddiad thematig
    
                
                
              Argymhellion
Dylai ysgolion:
- A1 Ddarparu cymorth targedig a chymorth ysgol gyfan i ddisgyblion agored i niwed, mewn partneriaeth â gwasanaethau eraill, ar sail dealltwriaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar blant
 - A2 Blaenoriaethu meithrin perthynas ymddiriedus a chadarnhaol gyda theuluoedd, sy’n eu hannog i rannu gwybodaeth bwysig gyda’r ysgol
 - A3 Sicrhau bod mannau tawel, anogol a chefnogol ar gael yn briodol i bob disgybl agored i niwed, yn enwedig y rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac yn arbennig i ddisgyblion uwchradd hŷn
 - A4 Rhoi hyfforddiant a chymorth i holl staff ysgolion uwchradd, nid dim ond staff sy’n gwneud gwaith bugeiliol, i ddeall eu rôl fel oedolion ymddiriedus posibl i ddisgyblion agored i niwed
 - A5 Sefydlu mecanweithiau i rannu gwybodaeth am ddisgyblion a theuluoedd agored i niwed yn gyfrinachol ac yn sensitif, gyda staff perthnasol
 
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A6 Rannu gwybodaeth berthnasol am ddisgyblion a theuluoedd agored i niwed yn brydlon gydag ysgolion
 - A7 Cynorthwyo ysgolion i ddatblygu strategaethau sy’n ystyriol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod er mwyn cefnogi disgyblion agored i niwed
 
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A8 Hyrwyddo Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru ac annog rhannu gwybodaeth am ddisgyblion a theuluoedd agored i niwed yn amserol gydag ysgolion