Defnyddiwyd prosesau dysgu proffesiynol i ddatblygu addysgeg ar draws yr ysgol i gefnogi datblygu a defnyddio medrau metawybyddol disgyblion – gwelir manylion am y rhain isod.
Clwb Llyfrau: Cynhelir Clybiau Llyfrau rheolaidd gyda’r holl staff addysgu. Rhoddir amser dynodedig i athrawon ddarllen ac ymgysylltu â chyhoeddiadau amrywiol, yn cynnwys erthyglau, llyfrau, podlediadau, a fideos. Mae’r tîm prifathrawiaeth yn dewis y cyhoeddiadau hyn yn ofalus ac yn darparu cwestiynau tywysedig i helpu athrawon i roi ffocws i’w meddwl. Wedyn, mae staff yn cael trafodaethau am y cynnwys a chânt eu hannog i nodi pwynt allweddol y gallant ei gymhwyso i’w harfer.
Llyfrgell ymchwil / darllen: Sefydlodd yr ysgol gronfa ddigidol sy’n cynnwys crynodebau wedi’u hysgrifennu gan staff am gyhoeddiadau y maent wedi eu defnyddio. Mae aelodau o staff yn nodi gwybodaeth allweddol yn gysylltiedig â metawybyddiaeth ac yn myfyrio ar sut gallant ymgorffori eu canfyddiadau mewn arfer yn y dyfodol. Mae’r llyfrgell hon yn gwbl hygyrch i staff, sy’n gallu defnyddio’r rhestr gynnwys i lywio at grynodebau penodol sy’n cefnogi eu dysgu proffesiynol.
Dysgu proffesiynol / lledaenu: Defnyddir cyfleoedd dysgu proffesiynol allanol i ddatblygu arbenigedd staff. Mae aelodau staff wedi’u dewis yn ofalus yn mynychu sesiynau hyfforddi, ac mae’r ysgol yn sicrhau bod y wybodaeth a enillir yn cael ei rhannu a’i lledaenu ymhlith pob un o’r staff. Hefyd, neilltuodd yr ysgol sawl diwrnod HMS i gefnogi dealltwriaeth a hyder pob un o’r staff.
Ymchwil Weithredu: Mae arweinwyr yn ennyn pob un o’r staff addysgu a’r staff cymorth mewn ymchwil weithredu – i fyfyrio ar eu harferion eu hunain, nodi meysydd i’w gwella a rhoi newidiadau ar waith yn seiliedig ar dystiolaeth. Gofynnodd yr ysgol am arweiniad a hyfforddiant gan brifysgol leol. Mae mentoriaid profiadol o’r brifysgol yn cynorthwyo’r timau ymchwil weithredu trwy fireinio cwestiynau ymchwil, cynllunio dulliau ymchwil, a dadansoddi data wedi’i gasglu. Mae eu harbenigedd yn sicrhau ymchwil trylwyr ac o ansawdd uchel. Trefnir sesiynau TeachMeet i roi amser i dimau ymchwil weithredu gyfarfod, olrhain cynnydd, a chynllunio’r camau nesaf. Mae gweithgareddau cydweithio a rhannu gwybodaeth yn galluogi aelodau staff i gyflwyno’u canfyddiadau, rhannu arferion gorau, a derbyn adborth, gan feithrin diwylliant o ddysgu a gwelliant parhaus. At ei gilydd, mae gan y brifysgol leol a’r ysgol rôl sylweddol mewn cefnogi defnydd staff o ymchwil weithredu ac o ran datblygu addysgeg bwrpasol i gefnogi datblygiad medrau meddwl disgyblion.
Platfform fideo: Mae’r ysgol yn defnyddio system fideo sy’n cael ei defnyddio gan staff i adolygu eu harfer eu hunain ac arfer eu cymheiriaid. Mae ffocws y sesiynau fideo yn canolbwyntio ar yr addysgeg a ddefnyddir i ddatblygu medrau meddwl disgyblion. Mae arweinwyr yn adolygu sesiynau wedi’u recordio i nodi meysydd cryfder ac anghenion cymorth ymarferwyr. Wedyn, mae arweinwyr yn grwpio staff yn strategol i adolygu sesiynau ei gilydd er mwyn iddynt ddysgu oddi wrth ei gilydd.