Arfer Effeithiol |

Grymuso’r holl staff i fod yn arweinwyr

Share this page

Nifer y disgyblion
176
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Ffordd Dyffryn yn ysgol gynradd brif ffrwd yng nghanol tref lan môr Llandudno, yn sir Conwy.

Mae’r ysgol yn gwasanaethu’r ardal gyfagos, ond daw ychydig ddisgyblion o rannau eraill o’r dref.  Mae’n darparu addysg i 180 o ddisgyblion rhwng tair ac 11 oed, gan gynnwys 19 o blant meithrin sy’n mynychu yn y prynhawn yn unig.  

Mae’r ysgol yn gartref i Ganolfan Adnoddau’r cyfnod sylfaen i ddisgyblion o’r awdurdod lleol sydd ag anawsterau cymdeithasol ac emosiynol, ac i Ganolfan Adnoddau cyfnod allweddol 2 i ddisgyblion o’r awdurdod lleol sydd ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig.

Y cyfartaledd tair blynedd ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 44%.  Mae hyn yn uwch o lawer na chyfartaledd Cymru, sef 19%.  Mae’r ysgol wedi nodi bod anghenion dysgu ychwanegol gan oddeutu 23% o ddisgyblion ac mae hyn gerllaw’r cyfartaledd, sef 21%, ar gyfer ysgolion cynradd yng Nghymru.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Daeth ‘Arweinyddiaeth i Bawb’ Ffordd Dyffryn i fodolaeth yn sgil penodi’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth newydd.  Fe wnaeth yr uwch dîm arwain newydd, gan gynnwys y corff llywodraethol, nodi’n gyflym fod angen grymuso staff ar bob lefel ar ôl i Estyn roi’r ysgol yn y categori mesurau arbennig yn 2012.  Sefydlwyd strwythur arweinyddiaeth wedi’i ddiffinio’n glir, gosodwyd yr uchelgais ar gyfer safonau uchel a, thrwy ddull annog a modelu, cefnogwyd datblygiad proffesiynol parhaus y staff.

Mae’r uwch dîm arwain wedi llywio taith wella hynod effeithiol, ac mae lles yr holl ddisgyblion a staff yn ganolog i’r broses.  Maent yn nodi cryfderau mewn unigolion ac yn annog cyfleoedd dysgu proffesiynol i bawb.  Mae ethos o weithio cydweithredol ymhlith yr holl staff a theimlant fod eu cyfraniad a’u sgiliau’n cael eu gwerthfawrogi.

Mae gan y pennaeth ddealltwriaeth glir o bwysigrwydd strategol meithrin gallu i arwain ar bob lefel ledled yr ysgol.  Mae gan uwch arweinwyr ymrwymiad cryf i’w datblygiad personol eu hunain ac mae staff ar bob lefel yn ymdrechu i wella’u harferion arwain eu hunain.  Mae’r holl staff yn dangos ymrwymiad ac ymroddiad i ethos a gweledigaeth yr ysgol – ‘Ysbrydoli, Dyheu, Gwneud Gwahaniaeth’ (Inspire, Aspire, Make a Difference).

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Grymuso staff – Yn Ysgol Ffordd Dyffryn, mae’r diwylliant o rymuso’r holl staff i fod yn arweinwyr ac ymgymryd â chyfrifoldebau wedi trawsnewid yr ysgol.  Mae rolau wedi’u diffinio’n glir ar bob lefel ac mae staff yn cydweithio, gan wybod beth yw eu cyfrifoldebau yn yr ysgol.  Mae’r pennaeth yn gwerthfawrogi ei staff ac yn cydnabod eu gwerth, felly teimlant eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’i bod yn ymddiried ynddynt.  Mae hi’n angerddol am ddatblygu arweinwyr i weithio ar y cyd er mwyn codi safonau.

Dros sawl blwyddyn, mae’r ysgol wedi datblygu hanes cyson o feithrin gallu ac ymrwymiad cryf iawn i hynny.  Mae diwylliant cryf o arweinyddiaeth wasgaredig a rhoddir hyfforddiant effeithiol i gynorthwyo staff i ddatblygu’u rolau arwain.

Dysgu proffesiynol – Mae cyfleoedd dysgu proffesiynol a ddarperir i staff wedi datblygu potensial athrawon i arwain ac, o ganlyniad, maent wedi arwain at grŵp o arweinwyr o ansawdd uchel sydd oll yn gwella ansawdd yr ysgol ac yn cymryd rhan mewn lledaenu eu harfer dda y tu hwnt i’r ysgol.  Mae cylch trylwyr o ddatblygu arweinyddiaeth i athrawon ar waith.  Yn ogystal, cynigir amrywiaeth o gyfleoedd i staff cymorth ddatblygu eu medrau arwain ymhellach.  Mae’r holl gynorthwywyr addysgu hyfforddedig yn ymgymryd â rôl arwain i gyflwyno rhaglenni ymyrryd effeithiol, gyda ffocws ar anogaeth, lles a safonau.

  • Mae’r dirprwy bennaeth wedi cwblhau’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth ac mae ar secondiad fel pennaeth dros dro ar hyn o bryd.
  • Mae dau aelod o’r uwch dîm arwain yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth i Ddarpar Benaethiaid.
  • Mae’r pennaeth cynorthwyol wedi cwblhau’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth ac mae wrthi’n astudio ar hyn o bryd ar gyfer Gradd Feistr mewn Addysg Arbennig (Awtistiaeth).
  • Mae un cynorthwyydd addysgu lefel uwch (CALU) wedi cwblhau’r Rhaglen Athrawon Graddedig ac mae bellach yn athro yn yr ysgol, gan gyflwyno hyfforddiant y Llwybr Dysgu Cymorthyddion Dysgu ar gyfer y consortiwm.
  • Mae’r pennaeth yn Gydymaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, mae’n cymryd rhan mewn cymeradwyo rhaglenni arweinyddiaeth cenedlaethol ac mae’n hyfforddwr y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth ar ran y consortiwm.
  • Mae tri aelod o’r uwch dîm arwain yn rhan o Raglen y Bartneriaeth Ysgolion gyda’r clwstwr.
  • Mae un aelod o’r uwch dîm arwain yn cydweithio â’r brifysgol leol ar brosiect ymchwil ynghylch Parodrwydd i Ddysgu.
  • Mae dysgu proffesiynol i’r holl staff yn cynnwys gweithio mewn triawdau ar brosiectau ymchwil i gael effaith ar ddysgu ac addysgu.
  • Mae pum athro wedi cwblhau’r Rhaglen Datblygu Arweinwyr Canol.
  • Mae uwch arweinydd yn hwylusydd clwstwr ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru.
  • Mae un cynorthwyydd addysgu lefel uwch (CALU) yn aseswr Datblygiad Dysgu Gofal Plant ac mae’n cynorthwyo staff i ennill eu cymwysterau.
  • Mae pum cynorthwyydd addysgu wedi cwblhau eu hasesiad CALU ac mae tri ohonynt yn rhan o’r garfan bresennol.

Grymuso disgyblion – Mae’r ysgol yn angerddol am les pob disgybl ac mae natur gynhwysol yr ysgol yn treiddio i bob agwedd ar ei gwaith.

Mae llais y disgybl yn gryf ac adlewyrchir hyn drwy waith y grwpiau arweinyddiaeth disgyblion.  Er enghraifft, mae polisïau sydd wedi’u harwain gan ddisgyblion, fel polisi gwrth-fwlio a luniwyd gan y disgyblion, sydd wedi helpu i dawelu tensiynau a gwella ymddygiad ar draws yr ysgol.  Mae gweithio ar brosiect ymchwil gyda’r brifysgol leol wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar agweddau disgyblion at ddysgu.  Mae disgyblion wedi llunio system wobrau ysgol gyfan a matrics o ddisgwyliadau ar gyfer ymddygiad ac fe’i gwelir o gwmpas yr ysgol.

Mae’r holl ddisgyblion yn dangos agwedd ofalgar a deallgar at gynwysoldeb.  Etholir Llysgenhadon Awtistiaeth ar gyfer pob dosbarth ac maent wedi creu blychau adnoddau er mwyn cynorthwyo disgyblion ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar draws yr ysgol.  Mae’r Llysgenhadon Awtistiaeth yn dangos brwdfrydedd tuag at rannu ymwybyddiaeth ar draws y gymuned ac maent wedi sefydlu cysylltiad entrepreneuraidd gyda busnesau lleol.  Mae’r disgyblion wedi datblygu a chynhyrchu ffilm fer i’w rhannu ar draws y sir i godi ymwybyddiaeth o anhwylderau’r sbectrwm awtistig.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae darpariaeth glir a thrylwyr ar gyfer dysgu proffesiynol, ynghyd â rolau wedi’u diffinio’n glir a’r gred bod yr holl staff yn arweinwyr, wedi cael effaith gadarnhaol ar les dysgwyr ac mae wedi effeithio’n sylweddol ar wella’r ysgol ac ar ddysgu ac addysgu.

Mae rhaglenni ymyrryd effeithiol dan arweiniad staff cymorth hyfforddedig iawn wedi cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion.  Er enghraifft, mae’r ddarpariaeth i ddisgyblion MAT trwy raglen ymyrryd wedi codi safonau mewn llythrennedd a rhifedd yn sylweddol.

Yn yr arolygiad diweddar, nododd Estyn fod ymddygiad disgyblion mewn dosbarthiadau ac o gwmpas yr ysgol yn rhagorol.  Cydnabyddir bod agwedd gadarnhaol tuag at gynhwysiant a chydraddoldeb yn gryfder nodedig yn yr ysgol.  Mae’r diwylliant cryf o gynwysoldeb a darpariaeth anogol yn cael effaith hynod gadarnhaol ar les disgyblion a’u hagweddau at ddysgu.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae Ysgol Ffordd Dyffryn yn rhannu arfer dda yn rheolaidd trwy gyflwyniadau ar agweddau amrywiol ar ei hymagwedd ‘Arweinyddiaeth i Bawb’ ar draws y sir a’r consortiwm.

Mae uwch athrawon yn rhoi cymorth i ysgolion ar draws y sir yn rheolaidd yn gysylltiedig â’u cyfrifoldebau arwain.

Yn ogystal, mae’r ysgol yn rhannu’i harfer dda trwy ddull ymarferol, gan gynorthwyo ysgolion yn ei chlwstwr a’i sir trwy gyflwyno cyfleoedd hyfforddi i staff cymorth.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol