Yn unol â datblygu’r Cwricwlwm i Gymru, mae Ysgol Portfield wedi adolygu ei threfniadau o ran y cwricwlwm i alluogi pob disgybl i elwa ar ystod eang o brofiadau dysgu ysgogol y mae’r pedwar diben yn ganolog iddynt. Ochr yn ochr â hyn, o ystyried amrywiaeth eang anghenion y disgyblion yn yr ysgol, mae staff yn cydnabod bod rhaid i’r cwricwlwm fod yn berthnasol i anghenion a galluoedd unigol disgyblion, a rhaid cael hyblygrwydd er mwyn sicrhau perthnasedd parhaus ar gyfer pob un o’r disgyblion yn ystod camau amrywiol eu cyfnod yn yr ysgol. Mae hyn yn golygu nad yw pob disgybl yn profi pob agwedd ar y cwricwlwm bob amser, ond yn hytrach y bydd cydbwysedd yn y cwricwlwm cyfan yn cael ei adlewyrchu ym mhrofiadau unigol disgyblion, yn unol â’u hanghenion unigol a’r camau amrywiol yn gysylltiedig ag oedran yn ystod eu bywyd ysgol.
Er enghraifft, mae disgyblion iau a’r rhai ag anghenion mwy cymhleth yn cefnogi arferion cyfarwydd yn y dosbarth trwy ddosbarthu eitemau ar gyfer eu cyfoedion, nôl yr offer sydd ei angen arnynt, a chlirio ar ôl gweithgareddau dysgu neu ar ddiwedd amser egwyl ac amser pryd bwyd. Mae disgyblion yn y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2 yn datblygu eu medrau coginio o oedran cynnar trwy droi a chymysgu cynhwysion a thylino toes i wneud bara. Mae disgyblion hŷn yn gwella eu dealltwriaeth o fyd gwaith trwy ystod eang o weithgareddau menter a lleoliadau profiad gwaith wedi’u cynllunio’n dda. Er enghraifft, maent yn dysgu defnyddio offer gwaith coed mewn cwmni gwaith saer i uwchgylchu dodrefn, creu blychau adar a blychau plannu pren, ac yn ymarfer medrau arlwyo a gwasanaeth cwsmeriaid mewn caffi a siop elusen leol.
Mae athrawon yn rhoi pwyslais cryf iawn ar gynllunio’r cwricwlwm a gwersi unigol wrth ddatblygu medrau annibyniaeth a medrau bywyd disgyblion. Maent yn cymryd gofal i sicrhau bod gwersi’n darparu gweithgareddau pwrpasol i hyrwyddo datblygiad targedau yng nghynlluniau addysg unigol (CAUau) disgyblion. Ceir cysylltiadau cryf rhwng yr amcanion yn natganiadau disgyblion, gosod targedau CAU a chynllunio athrawon. Mae hyn yr un mor berthnasol i ddisgyblion hŷn a mwy abl sy’n cwblhau lleoliadau profiad gwaith i baratoi ar gyfer gadael yr ysgol ag y mae i ddysgwyr sy’n datblygu’r medrau sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu dysgu a’u hannibyniaeth mewn ffyrdd sy’n cysylltu’n ystyrlon â’u hanghenion unigol eu hunain.
Mae’r prosesau hyn yn cysylltu’n agos â threfniadau’r ysgol ar gyfer olrhain a monitro cynnydd disgyblion. Mae’r ysgol yn defnyddio ystod eang o asesiadau sy’n gweddu’n dda i anghenion a galluoedd disgyblion. Mae arweinwyr a staff addysgu yn defnyddio deilliannau’r asesiadau hyn yn fedrus i sicrhau bod y ffordd maent yn cynllunio’r cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu gwerthfawr ar gyfer bron pob un o’r disgyblion, ac maent yn olrhain ac yn monitro cynnydd disgyblion yn rheolaidd.
Mae’r cysylltiadau cadarn rhwng asesiadau cychwynnol, targedau personol disgyblion a chynllunio athrawon yn darparu cyfleoedd gwerth chweil i bron pob un o’r disgyblion wneud cynnydd yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Mae cyfarfodydd adolygu blynyddol yn defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn eithriadol o dda, ac mae’r ysgol yn cefnogi disgyblion a rhieni yn eithriadol o effeithiol i gyfrannu’n llawn at y broses. Mae hyn wedi cryfhau ymglymiad disgyblion yn eu dysgu eu hunain yn sylweddol, ac mae’n agwedd bwerus ar ddarpariaeth yr ysgol.
Mae’r ysgol yn sicrhau bod cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion gyfrannu’n llawn at fywyd yr ysgol. Ceir cyfleoedd sefydledig i bob disgybl gymryd rhan yn y cyngor ysgol, yr eco-bwyllgor, a’r ‘Tîm Technegol’. Mae’r ysgol yn hyrwyddo’n gryf ymglymiad disgyblion mewn gweithgareddau eraill i ddatblygu eu hyder a’u medrau cymdeithasol, gan gynnwys gweithgareddau drama, ymweliadau addysgol i ddatblygu medrau adeiladu tîm, a chyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwella eu hyder yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.
Caiff y trefniadau hyn eu hategu gan raglen addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) drylwyr a sefydledig yr ysgol, sy’n hynod effeithiol yn cefnogi datblygiad medrau personol a chymdeithasol disgyblion. Trwy gydol y diwrnod ysgol, mae staff yn cyflwyno’r rhaglen hon yn fedrus. Er enghraifft, maent yn cefnogi dealltwriaeth disgyblion am ddewis bwydydd iach, a pheryglon alcohol, tybaco a chamddefnyddio sylweddau. Mae’r dull hwn yn hyrwyddo datblygiad medrau oes disgyblion yn effeithiol, gan eu paratoi’n dda wrth iddynt symud yn eu blaenau trwy’r ysgol a thuag at fod yn oedolion.