Adroddiad thematig |

Paratoi ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Share this page

Adroddiad thematig | 12/07/2018

pdf, 971.48 KB Added 12/07/2018

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar sut mae ysgolion yn dechrau sicrhau bod disgyblion yn datblygu’u cymhwysedd digidol, yn ôl yr hyn a amlinellir yn adroddiad Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015).

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Gynnwys pob rhanddeiliad mewn datblygu gweledigaeth glir ar gyfer y Fframwaith
  • A2 Penodi arweinydd digidol, sicrhau cefnogaeth lwyr uwch arweinwyr a monitro datblygiadau’n rheolaidd
  • A3 Archwilio anghenion dysgu proffesiynol athrawon a defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio hyfforddiant, cymorth ac arweiniad dros gyfnod realistig
  • A4 Mapio’r Fframwaith ar draws y cwricwlwm a sicrhau nad oes bylchau yn y ddarpariaeth a bod digon o barhad a dilyniant
  • A5 Cynnal archwiliadau caledwedd a seilwaith y rhwydwaith
  • A6 Sicrhau bod staff yn cydweithredu â staff eraill i rannu arfer dda

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A7 Gynorthwyo pob ysgol i fynd i’r afael â’r argymhellion uchod
  • A8 Monitro pa mor dda mae ysgolion unigol yn dod yn eu blaen â gwireddu’r Fframwaith a herio cynnydd cyfyngedig

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A9 Gyfleu’r disgwyliadau ar gyfer ymgorffori’r Fframwaith, gan gynnwys amserlenni, i ysgolion yn glir
  • A10 Sicrhau bod cyrsiau addysg gychwynnol athrawon yn rhoi i athrawon newydd y medrau angenrheidiol i wireddu’r Fframwaith yn llwyddiannus
  • A11 Gwella’r adnodd archwilio fel ei fod yn bodloni anghenion ysgolion yn well wrth iddynt asesu hyder athrawon i gyflwyno’r Fframwaith

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol